Skip to main content
Rugby Academy

Academi Rygbi

Mae’r Coleg yn falch o fod yn gartref i Academi Rygbi ffyniannus ar gyfer pobl 16-18 oed. Rydyn ni wedi ein trwyddedu gan Raglen Rygbi mewn Addysg Undeb Rygbi Cymru ac yn cystadlu yng Nghyngrair Ysgolion a Cholegau Cenedlaethol Elit Undeb Rygbi Cymru, y lefel uchaf sydd ar gael islaw oedran rygbi cynrychiadol rhanbarthol. Mae’r gynghrair hynod gystadleuol hon yn cynnwys yr 16 ysgol a choleg gorau yng Nghymru, ac mae ganddi hanes trawiadol, gyda 65% o chwaraewyr dan 18 a dan 20 Cymru yn dod trwyddi.

Mae ein hacademi yn darparu rhaglen datblygu gynhwysfawr sydd â’r nod o baratoi chwaraewyr ar gyfer pontio i rygbi proffesiynol neu uwch. Mae chwaraewyr yn derbyn 12 awr yr wythnos o hyfforddiant, cryfder a chyflyru, dadansoddi perfformiad, sesiynau unigol a chlinigau anafiadau. Trefnir yr amserlen ar draws yr wythnos, ac mae’r rhan fwyaf o raglenni astudio ar Gampws Gorseinon yn cyd-fynd ag amserlen yr academi.

Yn ogystal â’r Academi Elit, rydym yn rhedeg 2il dîm XV hynod gystadleuol sy’n cystadlu yn 2il gynghrair XV NS&C, gan ddarparu cyfleoedd i chwaraewyr sydd am chwarae at ddibenion hamdden ochr yn ochr â’u hastudiaethau. Adlewyrchir ein hymrwymiad i ragoriaeth yn llwyddiannau ein cyn-fyfyrwyr. Mae dros 15 chwaraewr wedi mynd ymlaen i yrfaoedd proffesiynol llwyddiannus, gan gynnwys anrhydeddau rygbi rhanbartyhol a rhyngwladol i Gymru, a chapiau Llewod Iwerddon a Phrydain. Mae cyn-fyfyrwyr nodedig yn cynnwys Leigh Halfpenny, Justin Tipuric, Nicky Smith, Rory Thornton, James Ratti a Keelan Giles.

Ar y rhaglen, mae set o hyfforddwyr medrus, sy'n cynnwys y cyn-chwaraewr rhyngwladol Steven Jones, a hyfforddwyr Dyfnant, Daniel Cluroe a Mark O'Kelly.

I ddysgu rhagor am yr Academi Rygbi:
01792 284000
academy@coleggwyrabertawe.ac.uk
daniel.cluroe@coleggwyrabertawe.ac.uk