Skip to main content

Busnes a Chyfrifeg

I ymadawyr ysgol 16-18

Ar ôl cwblhau’ch cymwysterau gallech ddefnyddio’ch sgiliau trosglwyddadwy i gael hyd i gyflogaeth yn y sector busnes a chyllid sy’n tyfu.

Neu, gallech ddewis aros yn y Coleg ac astudio cwrs addysg uwch cysylltiedig gyda ni.

Coleg Gŵyr Abertawe yw’r unig goleg addysg bellach yn y DU i ennill statws Partner Dysgu Cymeradwy Platinwm gan ACCA (Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig).

Mynd i'r cyrsiau Mynd i'r newyddion

Llwybrau gyrfa

  • Datblygu busnes
  • Banciwr buddsoddi
  • Dadansoddwr data
  • Cyfrifydd siartredig
  • Entrepreneur
  • Rheolwr prosiect.

Newyddion

Business students with Russell Greenslade

Ymweliad gan Russell Greenslade

Roedden ni’n falch dros ben o groesawu Russell Greenslade, Cyfarwyddwr CBI Cymru ac aelod o Fwrdd Cynghori Ysgol Fusnes Plas Sgeti, i Gorseinon lle cynorthwyodd mewn Gweithdy Menter ar gyfer myfyrwyr BTEC Busnes Lefel 3.

Nod y digwyddiad oedd helpu myfyrwyr i baratoi at eu cyflwyniadau Dragon's Den unigol ar gyfer Cystadleuaeth Menter Coleg fewnol a hefyd eu haseiniad gwaith cwrs BTEC.

Un o gyn-fyfyrwyr Gorseinon yw Russell a astudiodd gwrs BTEC Busnes Lefel 3 hefyd, ac felly roedd yn awyddus iawn i gynorthwyo’r myfyrwyr presennol!

Cole Brydson

Myfyriwr Safon Uwch yn ennill gwobr economegydd ifanc

Mae myfyriwr Safon Uwch o Goleg Gŵyr Abertawe wedi ennill teitl nodedig Economegydd Ifanc y Flwyddyn Cymru gan Discover Economics.

Dragos Negrea

Myfyriwr y Flwyddyn Busnes 2024 – Dragos Negrea

Mae Dragos wedi bod yn gyson ardderchog yn ystod ei gwrs Tystysgrif Estynedig Genedlaethol Lefel 3 mewn Busnes.

Mae wedi bod yn drylwyr yn ei aseiniadau, wedi rhagori ym mhob un o’i arholiadau ac wedi arwain y ffordd yn ei weithgareddau Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch yng Nghoedwig Cwm Penllergaer.