Chwaraeon
Cynigir amrywiaeth o gyrsiau ar gampysau Gorseinon a Thycoch. Mae Safon Uwch Addysg Gorfforol hefyd ar gael yng Ngorseinon.
Mae gan fyfyrwyr amser llawn gyfle i wneud cais i un o’n Hacademïau Chwaraeon ac mae ysgoloriaethau hefyd ar gael.
Bob blwyddyn, mae myfyrwyr yn rhagori ar ddigwyddiadau unigol a thîm, gan gynnwys digwyddiadau Colegau Cymru a Cholegau Prydain. Mae myfyrwyr hefyd yn ymwneud â hyfforddi mewn ysgolion cynradd lleol.
Mae llawer o’n myfyrwyr yn symud ymlaen i’r cwrs Gradd Sylfaen mewn Datblygu a Rheoli Chwaraeon.
Cynigir cyrsiau rhan-amser mewn Hyfforddi Ffitrwydd a Hyfforddiant Personol.
Mae’r Ganolfan Chwaraeon yn Nhycoch yn cynnig cyfleusterau ardderchog i’r holl fyfyrwyr a’r staff.
Edrychwch ar ein cyrsiau Chwaraeon a Ffitrwydd
Chwaraeon Lefel 2 - Diploma
Lefel 2 OCR
Chwaraeon Lefel 3 - Diploma Estynedig
Lefel 3 BTEC Extended Diploma
Chwaraeon: Hyfforddiant a Pherfformiad Pêl-droed (Pro:Direct) Lefel 3 - Diploma
Lefel 3 BTEC Diploma
Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff Lefel 3 - Diploma Estynedig
Lefel 3 BTEC Extended Diploma
Rhagoriaeth a Pherfformiad Chwaraeon (Rygbi) Lefel 3 - Diploma Estynedig
Lefel 3 BTEC Extended Diploma
Safon Uwch Addysg Gorfforol
Lefel 3 A Level