Bydd eich taith bws i’r Coleg yn dibynnu ar y campws lle rydych chi’n astudio. Mae rhai campysau’n cael eu gwasanaethu gan gwmnïau bysiau cyhoeddus lleol, tra bod eraill yn defnyddio gwasanaeth bws Coleg dynodedig. Isod fe welwch wybodaeth am lwybrau, costau ac unrhyw ddisgowntiau neu deithio am ddim sydd ar gael ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27.
Myfyrwyr sy’n derbyn Cronfa Ariannol Wrth Gefn (CAWG):
Os ydych yn gymwys i gael CAWG, mae’n bosibl y cewch docyn bws am ddim. Trefnir y tocynnau hyn yn uniongyrchol trwy Dîm Cyllid Myfyrwyr y Coleg. Os ydych yn 16–21 oed ac yn teithio gyda First Bus neu Adventure Travel, rhaid i chi fod â FyNgherdynTeithio dilys er mwyn i’ch tocyn bws CAWG fod yn ddilys. I gael rhagor o wybodaeth am CAWG, ewch i’n tudalen Cymorth Ariannol.
Ar ba gampws ydych chi’n astudio?
Dewiswch eich campws:
Campws Gorseinon
Gwasanaeth bws:
- Gall myfyrwyr ddefnyddio gwasanaeth bws Coleg dynodedig
- Gallwch deithio i’r Coleg ac yn ôl ar ddechrau ac ar ddiwedd y dydd.
Gweithredwyr bws:
- South Wales Transport.
Dewis eich llwybrau:
Edrychwch ar amserlenni bws y Coleg i ddod o hyd i’r llwybr gorau i chi ar wefan South Wales Transport:
Amserlenni Bysiau Gorseinon Bus
Dylai myfyrwyr gadarnhau eu llwybr bws pan fyddan nhw’n dod i’r Coleg i gofrestru.
Tocynnau a phrisiau bws:
- £389* am y flwyddyn academaidd
- Yn ddilys o 1 Medi 2026 tan 18 Mehefin 2027.
Cynllun talu mewn rhandaliadau:
- Adeg cofrestru: £195*
- Rhandaliad 2 (2 Tachwedd 2026): £105*
- Rhandaliad 3 (4 Ionawr 2027): £105*
- Ffi weinyddol: £16
Sylwch: Mae sieciau ôl-ddyddiedig neu gerdyn debyd/credyd yn ofynnol ar gyfer cynllun taliadau. Ni ellir defnyddio Apply Pay a Google Pay ar gyfer rhandaliadau.
Manylion Cyswllt Tîm Cyllid Myfyrwyr Gorseinon:
- E-bost: studentfundinggors@gcs.ac.uk
- Ffôn: 01792 890700
Campysau Tycoch, Llys Jiwbilî, Llwyn y Bryn, Plas Sgeti a Ffordd y Brenin
Gwasanaethau bws:
- Does dim bysiau Coleg dynodedig ar gyfer y campysau hyn
- Mae myfyrwyr yn gyfrifol am drefnu eu trafnidiaeth eu hunain wrth ddefnyddio gwasanaethau bysiau lleol neu opsiynau amgen.
Gwasanaethau bysiau cyhoeddus lleol:
- First Bus
- Adventure Travel.
Dewis eich llwybrau:
Defnyddiwch y tudalennau cynllunio taith ar wefannau First Bus ac Adventure Travel i ddod o hyd i’r llwybr gorau i chi:
Tocynnau a phrisiau bws:
Mae myfyrwyr 16-21 oed yn gymwys i gael cyfraddau rhatach ar y tocynnau isod gyda FyNgherdynTeithio. Gallwch wneud cais am FyNgherdynTeithio AM DDIM ar-lein ar wefan FyNgherdynTeithio.
- First Bus:
- Gallwch brynu tocynnau yn uniongyrchol gan First Bus
Tocynnau tymhorol (pris yn amrywio fesul tymor) - Tocyn blynyddol: £389 (2026-27)
- Tocynnau dydd ac unffordd ar gael
- Mae tocynnau tymhorol a blynyddol yn darparu teithio 24/7 anghyfyngedig ar fysiau First Bus.
- Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan First Bus.
- Gallwch brynu tocynnau yn uniongyrchol gan First Bus
- Adventure Travel
- Mae tocynnau Adventure Travel ar gael o Dîm Cyllid Myfyrwyr y Coleg.
- Tocyn blynyddol: £389 (2026-27)
- Bydd angen arnoch lun tebyg i lun pasbort a phrawf o’ch dyddiad geni.
Manylion Cyswllt Tîm Cyllid Myfyrwyr Tycoch:
- E-bost: studentfundingtyc@gcs.ac.uk
- Ffôn: 01792 284114 or 01792 284175
*Gallai’r prisiau newid.