Skip to main content

Peirianneg

I ymadawyr ysgol 16-18

Mae cyrsiau Peirianneg yn cael eu cynnig ar Lefelau 2 a 3. Mae llwybr prentisiaeth ar gael hefyd ar Lefel 3. 

Mae myfyrwyr yn symud ymlaen i brentisiaethau a chyrsiau gradd mewn prifysgolion amrywiol.

Mae cyrsiau rhan-amser yn amrywio o Lefel 2 hyd at Lefel 5.

Mae peirianwyr electronig ar flaen y gad o ran technolegau’r dyfodol – mae’n amser cyffrous i fod yn astudio electroneg!

Newyddion

 

Cyfnod newydd i Beirianneg yng Ngholeg Gŵyr Abertawe

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch o gyhoeddi dau benodiad newydd yn ei adran Peirianneg.Rhys Thomas yw Rheolwr Maes Dysgu newydd yr adran, sy’n cynnwys peirianneg fecanyddol, peirianneg electronig, cerbydau modur, chwaraeon moduro, a weldio.

Myfyrwyr yn sicrhau cyfleoedd prentisiaeth

Mae dau fyfyriwr Technoleg Peirianneg ar Gampws Tycoch Coleg Gŵyr Abertawe wedi bod yn creu argraff yn y diwydiant peirianneg, diolch i gymorth y cyn-fyfyriwr David McRae.
Tîm Krazy Races

Tîm Peirianneg Coleg Gŵyr Abertawe yn ennill Dyluniad Gorau yn Krazy Races

Roedd canol dinas Abertawe yn byrlymu o gyffro ar Sul y Tadau wrth i Krazy Races gymryd drosodd y strydoedd.