Tycoch

 

Mae Tycoch yn gampws prysur a bywiog i fyfyrwyr sy’n dilyn amrywiaeth o gyrsiau galwedigaethol.

Agorodd ein prosiect buddsoddi gwerth £4 miliwn, sydd wedi creu ystafelloedd dysgu a chymdeithasol modern, ar y campws ym mis Chwefror 2018.

Ar y llawr cyntaf mae Canolfan Brifysgol bwrpasol i fyfyrwyr sy’n astudio cyrsiau lefel uwch. Mae’r ganolfan yn cynnwys ystafelloedd dosbarth, ystafell gyffredin a man dysgu arbenigol.

Mae’r campws o fewn pellter cerdded i Sgeti ac mae’r cysylltiadau cludiant i ac o ganol dinas Abertawe yn ardderchog.

Noson agored amser llawn nesaf yn Nhycoch: Nos Lun 11 Mawrth 2024   Rhagor o wybodaeth

 

Archwilia ein campws mwyaf, Tycoch. Mae Tyocoh yn cynnwys ystod eang o gyfleusterau modern megis ffug-wardiau, caban awyrennau rhithwir a bwyty hyfforddi cwbl weithredol, sy’n cynnig amgylchedd gwaith realistig.

 

Cer am dro o amgylch ein Canolfan Prifysgol a ddefnyddir gan ein myfyrwyr addysg uwch yn unig. Mae’r Canolfan Prifysgol yn cynnwys sawl ystafell ddosbarth, llyfrgell ac ystafell gyffredin. Mae gwagle a chefnogaeth y ganolfan yn sicr o hwyluso eich astudiaethau.

 

Darganfyddwch yr ystod eang o gyfleusterau sydd ar gael yng Nghanolfan Chwaraeon Tycoch, gan gynnwys campfa, ystafell droelli/beicio, a The Forge; ystafell Olympaidd lle gallwch godi pwysau a derbyn hyfforddiant ymarferol. Bydd y daith VR yn dangos y mannau a ddefnyddir ar gyfer ein hyfforddiant ffitrwydd yn ogystal â’n dosbarthiadau.

 

Mynna gip ar ein Canolfan Arloesi Cyfrifiadurol, sy’n gartref i gyfleusterau o’r radd flaenaf ar gyfer myfyrwyr cyrsiau technoleg. Mae’r ganolfan hefyd yn bencadlys i GCS Owls, lle maen nhw’n ymarfer ar gyfer Pencampwriaeth Echwaraeon Prydain.

Oriau agor

Yn ystod y tymor

Dydd Llun i Ddydd Iau - 8am tan 9pm
Dydd Gwener - 8.30am tan 4.30pm

Yn ystod y gwyliau
Dydd Llun i Ddydd Iau - 8.30am tan 5pm
Dydd Gwener - 8.30am tan 4.30pm

Manylion Cyswllt

Heol Tycoch,
Abertawe
SA2 9EB
Ffôn: 01792 284000
E-bost: ymholiadau@coleggwyrabertawe.ac.uk