Mae prentisiaethau’n ffordd o ennill cyflog a gweithio ochr yn ochr â staff profiadol i gael sgiliau penodol i’r swydd.
Cewch gyflog rheolaidd a gwyliau gyda thâl a’r un manteision â chyflogeion eraill. Wrth i’ch sgiliau ddatblygu, bydd eich cyflog yn cynyddu yn unol â hynny. Mae’n bosibl y cewch arian ychwanegol ar gyfer llyfrau hanfodol, dillad neu offer, neu gymorth os oes gennych anabledd.
Cefnogir Rhaglenni Prentisiaeth, Hyfforddeiaeth a Thwf Swyddi Cymru, dan arweiniad Llywodraeth Cymru, gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.

Ariennir prosiect Sgiliau ar gyfer Diwydiant gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru
Introducing our brand new, fully funded* Professional Digital Apprenticeships.
Whether you’re looking to future proof your own digital skillset, or that of your workforce, we have a new suite of fully funded digital apprenticeships to choose from.
More information contact: 01792 284411 or email: nia.davies@gcs.ac.uk
*eligibility applies
Yr Iaith Gymraeg yng Ngholeg Gŵyr Abertawe
Nod Coleg Gŵyr Abertawe yw bod yn goleg dwyieithog, gydag iaith a diwylliant Cymru yn ganolog i ethos y coleg. Rydym yn hyrwyddo dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg a dysgu dwyieithog ac yn annog ein myfyrwyr i ddefnyddio’u Cymraeg.
Gwybod rhagor
Y Manteision i Brentisiaid
Ennill cyflog
Cael profiad gwaith gwerthfawr
Gwella eich rhagolygon gyrfa
Cael profiad yn y sector rydych chi am weithio ynddo
Datblygu eich sgiliau hanfodol ar gyfer y byd go iawn
Y Manteision i Gyflogwyr
Cynyddu cynhyrchedd a'r llinell waelod
Gwella morâl a lefelau cadw staff
Sylfaen sgiliau well o fewn y cwmni
Cyllid/grantiau ar gael mewn rhai achosion
Lleihau costau hyfforddi a recriwtio
Gallu llenwi bylchau sgiliau
Prentisiaethau
Does dim ffordd well o ennill tra'ch bod chi'n dysgu na dewis dilyn prentisiaeth. Byddwch chi'n ennill cyflog a hefyd yn cael profiad gwerthfawr yn y diwydiant rydych am weithio ynddo, ynghyd â chymhwyster i'ch helpu i symud ymlaen i'r yrfa o'ch dewis. Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un 16 oed neu'n hŷn.Prentisiaethau Uwch
Mae Prentisiaethau Uwch yn arwain at gymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol ar naill ai Lefel 4 neu 5, sy'n gyfwerth â thystysgrif addysg uwch, diploma addysg uwch neu radd sylfaen.