Skip to main content

Mynediad i Addysg Uwch

Mae ein cyrsiau Mynediad i Addysg Uwch yn addas i’r rhai sy’n 19 oed a hŷn ac maen nhw’n berffaith i’r rhai sydd am ddychwelyd i addysg ar ôl saib neu sy’n chwilio am gymwysterau i newid gyrfa. Mae cynnwys y cwrs yn sicrhau eich bod yn ddigon parod ar gyfer astudio yn y brifysgol.

Fel oedolyn, rydym yn gwybod bod gennych gyfrifoldebau ac ymrwymiadau y mae angen eu hystyried ochr yn ochr â’ch astudiaethau ac mae ein tiwtoriaid yn ddeallgar, yn gefnogol ac yn hyblyg.

Gyda chwrs Mynediad i Addysg Uwch, gallwch ddewis o blith amrywiaeth o lwybrau i sicrhau mynediad i’r cwrs gradd o’ch dewis, ac ar y trywydd iawn ar gyfer llwyddiant a’ch swydd ddelfrydol hyd yn oed.