Skip to main content

Sgiliau ar gyfer y Gweithle

Hyd at 50% oddi ar bris cyrsiau!

Trwy brosiect Sgiliau ar gyfer y Gweithle, mae Coleg Gŵyr Abertawe yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau gyda hyd at 50% oddi ar ffi wreiddiol y cwrs.

Mae cyrsiau’n cynnwys rhaglenni ardystiedig NEBOSH ac IOSH yn ogystal ag Ailasesiad ACS Nwy Domestig, sy’n rhoi cyfle i ailhyfforddi ac uwchsgilio trwy gymwysterau cydnabyddedig neu gefnogi datblygiad proffesiynol eich tîm.

Rhestr o’r cyrsiau

Ariennir y prosiect Sgiliau ar gyfer y Gweithle yn rhannol gan y Rhaglen Sgiliau a Thalent drwy’r Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol a Bargen Ddinesig Bae Abertawe.

Pa gyrsiau sydd ar gael?

Rydym yn cynnig cyfleoedd Lefel 3-5 sy’n cyd-fynd â rhai o sectorau mwyaf cyffrous y rhanbarth:

🏗️ Adeiladu

💻 Digidol a TGCh

🏭 Gweithgynhyrchu Uwch a Chlyfar

❤️‍🩹 Iechyd a Gofal

⚡ Ynni ac Ynni Adnewyddadwy.

Mae’r cyrsiau wedi'u cynllunio i ddiwallu dyletswyddau swyddi go iawn - ac maent yn ddelfrydol ar gyfer uwchsgilio, ailhyfforddi neu hybu datblygiad proffesiynol eich tîm.

Beth am gymryd rhan?

✅ Sicrhau cymhwyster cydnabyddedig

✅ Gwella rhagolygon cyflogaeth

✅ Sgiliau newydd sy’n berthnasol i’ch diwydiant

✅ Hyblygrwydd addysgol i gyd-fynd â'ch bywyd

✅ Llawer o gyrsiau am ddim ac â chymorthdaliadau

P'un a ydych yn unigolyn sydd am ymuno â'r farchnad swyddi, symud ymlaen yn eich rôl bresennol, archwilio gyrfa newydd, neu yn gyflogwr sydd eisiau uwchsgilio'ch tîm ac addasu i newidiadau'r diwydiant, dyma gyfle i gael mynediad at gymwysterau cydnabyddedig a sgiliau cyfredol.

Pwy all wneud cais?

  • Oedolion sydd am newd gyrfa neu ddychwelyd i gyflogaeth

  • Gweithwyr sydd eisiau uwchsgilio

  • Cyflogwyr sydd am hyfforddi eu gweithlu.

Mae’r prosiect hwn yn addas ar gyfer unigolion a busnesau ar draws De Cymru.

Sgiliau ar gyfer y Gweithlu

Ydych chi am roi hwb i’ch sgiliau, newid gyrfa neu helpu eich tîm i gwblhau hyfforddiant sy’n gwneud gwahaniaeth?

Trwy gydweithio â cholegau ledled De-orllewin Cymru, colegau blaenllaw eraill a Phartneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol De-orllewin Cymru, rydym yn cynnig cyfres o gyrsiau am ddim ac â chymhorthdal. Bwriad y cyrsiau yw rhoi sgiliau cyfredol i unigolion fel y gallant ddiwallu anghenion lleol a ffynnu yn eu gweithle.

Cyflwynir y fenter hon ar y cyd â:

Gyda'n gilydd, rydym am wella lefelau sgiliau De-orllewin Cymru - gan helpu unigolion a chyflogwyr i fynd i’r afael â economaidd.

Cyrsiau Sgiliau ar gyfer y Gweithlu

Archwiliwch y cyrsiau sydd ar gael isod a chofrestrwch diddordeb heddiw. Mae lleoedd yn gyfyngedig - peidiwch â cholli'r cyfle i fuddsoddi yn eich dyfodol neu'ch gweithlu.