Skip to main content

Trin Gwallt, Harddwch a Holisteg

I ymadawyr ysgol 16-18

Mae’r diwydiant yn dibynnu ar bobl greadigol sydd â sgiliau cyfathrebu cryf a pharodrwydd i ddysgu. Gallai astudio gyda ni arwain at ddyfodol yn gweithio mewn salon, rhedeg eich sba eich hun neu deithio’n rhyngwladol ar longau mordeithio.

Mynd i'r cyrsiau Mynd i'r newyddion

Llwybrau gyrfa

  • Triniwr gwallt/barbwr
  • Therapydd harddwch
  • Technegydd ewinedd
  • Colurwr
  • Rhedeg eich busnes eich hun
  • Gwallt, colur ac effeithiau arbennig teledu, ffilm a theatr

Newyddion

Model walking down catwalk wearing pink flowing dress and with tall pouf hair decorated with flowers

Myfyrwyr yn edrych ymlaen at Ddyfodol Creadigol

Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi cynnal digwyddiad Dyfodol Creadigol cyffrous, gan ddod â thalentau at ei gilydd o’i dimau ffasiwn, celf a dylunio, teithio a thwristiaeth, gwallt a cholur, cerddoriaeth, a chynhyrchu theatr dechnegol.

Ffion Davies

Coleg yn croesawu ffagl Tîm Cymru i Gampws Tycoch

Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi croesawu ffagl Tîm Cymru i Gampws Tycoch, gan nodi carreg filltir allweddol ar ei thaith ar draws Cymru cyn Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills UK eleni.

Broadway students in costume

Coleg Gŵyr Abertawe yn ennill medalau yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn dathlu llwyddiant ysgubol yng Ngwobrau Sgiliau Cymru ar ôl ennill sawl medal.

Fe wnaeth staff a myfyrwyr o’r Coleg gymryd rhan yn y ‘parti gwylio’ a’r seremoni wobrwyo yn Arena Cymdeithas Adeiladu Abertawe, lle enillodd y Coleg bum medal Aur, pum medal Arian a saith medal Efydd.