Skip to main content
Ladies' Football Academy

Academi Pêl-droed Merched

Cafodd Academi Pêl-droed Merched ei sefydlu i hyrwyddo gwaith tîm, ymroddiad ac ymrwymiad i’r gamp, ac ar yr un pryd i helpu i ddatblygu sgiliau bywyd gwerthfawr y chwaraewyr yn ystod eu profiad Coleg. Rydym yn cydnabod bod chwaraeon yn cynnig cyfleoedd i helpu myfyrwyr ar draws pob agwedd ar fywyd, ac felly byddwn yn eich cefnogi i sicrhau bod gennych y dyfodol disgleiriaf posibl.

Darperir tair sesiwn hyfforddi bob wythnos gan y prif hyffoddwr Andrew Stokes, sydd bob amser yn canolbwyntio ar anghenion unigol y chwaraewr. Mae’n cyflawni hyn trwy weithredu amserlen o hyfforddiant cymysg sy’n cynnwys datblygu sgiliau pêl-droed, paratoi at gemau, dadansoddi ar ôl gemau a hyfforddiant cryfder corfforol.

Byddwch yn dysgu gan y gorau mewn amrywiaeth o gyfleusterau hyfforddi o safon yn Abertawe, gan gynnwys Play Football Swansea, Pitchside, Prifysgol Abertawe a Choleg Gŵyr Abertawe. Trefnir bod gemau’n cael eu cynnal bob dydd Mercher, a dyma pryd y cewch gyfle i brofi popeth rydych wedi’i ddysgu. Ar ôl pob gêm, bydd yr hyfforddwr yn treulio amser gyda chi i ganolbwyntio ar ddadansoddiad o’ch perfformiad a hefyd bydd yn sicrhau eich bod yn gwybod am hyfforddiant adfer ac atal anafiadau.

Fel gyda’r holl hyfforddiant rydym yn ei ddarparu yn yr Academi Chwaraeon, ein hymrwymiad i chi yw sicrhau eich bod yn y cyflwr gorau posibl, yn gorfforol ac yn feddyliol, ac y bydd y manteision yn cael eu hadlewyrchu ar draws eich holl brofiad dysgu yn y Coleg.

Llwyddiannau
Nid ni’n unig sy’n dweud hyn; mae llwyddiannau lu Academi Pêl-droed Merched Coleg Gŵyr Abertawe yn dweud y cyfan! Mae Ria Hughes, Victoria Crocker a Laura Rees i gyd yn gyn-fyfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe, ac ar hyn o bryd maen nhw’n chwarae i Ferched Dinas Abertawe.

Ysgolion Cymru
Enillwyr Cwpan 2011-12

Colegau Cymru
5-bob-ochr Yr Ail Orau 2011-12

Cynghrair Colegau Cymru
Yr Ail Orau 2011-12

Cyngharir Colegau Cymru
Enillwyr 2012-13

Pêl-droed yn y gymuned
Fel gyda Phêl-droed Dynion, mae myfyrwragedd yn cael nifer o gyfleoedd i gymryd rôl weithgarmewn hyffoirddiant chwaraeon yn y dyfodol. Cewch gynnig hyfforddiant ac ymwybyddiaeth o gymorth cyntaf yn ogystal â chyfle i weithio gyda phobl iau i hyrwyddo’r gamp mewn ysgolion cynradd lleol – rhoddir Gwobrau Dyfarniadau Arweinwyr Pêl-droed a Gwobrau Arweinwyr Pêl-droed Cymunedol i’r rhai sy’n dangos y brwdfrydedd mwyaf.

Agor y drysau i gyfleoedd newydd
Wrth reswm, gall chwaraewyr yn yr Academi gyfuno eu hyfforddiant a’u hastudiaethau â chwrs academaidd o’u dewis. Mae nifer o fyfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe yn defnyddio eu profiad a’u cymwysterau o’r Academi i fynd ymlaen i astudio ar lefel Addysg Uwch. Mae rhai o’r bobl sy’n gobeithio cael gyrfa mewn chwaraeon wedi mynd i Brifysgol Abertawe a Phrifysgol Fetropolitan Caerdydd i astudio Chwaraeon a Gwyddor Chwaraeon ar lefel gradd.

Mae cyfleoedd hyd yn oed i wneud cais am ysgoloriaeth dramor. Mae nifer o’n myfyrwyr eisoes wedi bod yn ddigon lwcus i gael lle mewn Addysg Uwch yn yr Unol Daleithiau, gan roi cyfle iddynt chwarae pêl-droed cystadleuol ar lefel uwch a chael profiadau bywyd gwerthfawr sy’n mynd law yn llaw ag astudio dramor.

I ddysgu rhagor am yr Academi Pêl-droed Merched ffoniwch:
01792 284000
academy@gowercollegeswansea.ac.uk
andrew.stokes@gowercollegeswansea.ac.uk