Skip to main content

Cyflogwyr

Coleg Gŵyr Abertawe yw un o brif ddarparwyr Prentisiaethau Cymru, ac rydym yn cynnig ystod eang o raglenni prentisiaethau arobryn yng Nghymru a Lloegr.

Rydym yn gweithio gydag ystod eang o gyflogwyr mewn amrywiaeth o wahanol ddiwydiannau, gan gynnig atebion hyfforddi i helpu recriwtio staff newydd neu uwchsgilio staff presennol. Rydym yn gweithio gyda chyflogwyr i deilwra rhaglenni hyfforddi i ddiwallu eich anghenion, a gall ein darpariaeth gynnwys cyfuniad o ddysgu seiliedig ar waith, sesiynau yn yr ystafell ddosbarth a dysgu o bell. Cynigiwn y fath hyblygrwydd i fodloni anghenion a gofynion eich sefydliad.

Gall cyflogwyr sy’n gweithio gyda Choleg Gŵyr Abertawe ddisgwyl cymorth o’r radd flaenaf i ddysgwyr, cymorth recriwtio, darpariaeth bwrpasol wedi’i theilwra i’ch anghenion, adroddiadau rheolaidd ar weithgarwch y Coleg, cymorth i ddatblygu atebion hyfforddi newydd yn ogystal â chyllid neu ganllawiau ar ardollau i sicrhau’r defnydd gorau o amser a’r gwerth gorau am arian, ynghyd ag adenillion o fuddsoddi. 

Os hoffech chi ragor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael i gyflogwyr, cysylltwch â’n tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr: training@gcs.ac.uk neu 01792 284400.

Llwybrau Datblygu 

Rydym yn cynnig mwy nag 82 o lwybrau prentisiaeth, yn amrywio o brentisiaethau Lefel 2 i brentisiaethau lefel gradd. Mae gennym lwybrau prentisiaeth traddodiadol megis Gwaith Coed a Gwaith Trydan, yn ogystal â llwybrau newydd megis Arwain a Rheoli, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Digidol a llawer mwy!

Gweld ein llwybrau prentisiaeth

Buddion i gyflogwyr

Trwy weithio gyda Choleg Gŵyr Abertawe, bydd cyflogwyr yn elwa o:

  • Well gynhyrchiant gweithwyr
  • Gwell perfformiad ac ysbryd tîm
  • Gwell sgiliau mewnol o fewn y cwmni
  • Mynediad at lwybrau cyllid a grantiau
  • Costau hyfforddi a recriwtio is
  • Y gallu i lenwi bylchau mewn sgiliau trwy recriwtio staff newydd neu uwchsgilio staff presennol

Pam cyflogi prentis?

Gall cyflogi prentis fod o fudd i’ch sefydliad mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys:

  • Creu gweithlu mewnol cymwys, medrus a llawn cymhelliant
  • Hyfforddiant a datblygiad pwrpasol i weddu i anghenion a gofynion eich sefydliad
  • Prentisiaid brwdfrydig sy’n meithrin y sgiliau, y wybodaeth a’r ymddygiadau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt
  • Ffordd gost-effeithiol o feithrin talent

Straeon cyflogwyr 

Rydym yn gweithio gydag ystod eang o gyflogwyr mawr a bach mewn amrywiaeth o wahanol ddiwydiannau a sectorau.

Clywch beth sydd gan rai o'n partneriaid cyflogwyr i'w ddweud!

Cliciwch y botwm ar ochr dde uchaf y fideo i weld mwy.

Gwobrau Prentisiaethau

Cynhaliwyd Gwobrau Prentisiaethau eleni ar ddydd Llun 5 Chwefror 2024.

Rhagor o wybodaeth

Logo

Becon awards finalist logo

Ein partneriaid

Mae’r Coleg yn gweithio gydag amrywiaeth eang o bartneriaid mewn ystod o feysydd gwahanol. Dyma rhai o’r cyflogwyr rydym yn gweithio â nhw:

Airbus logo
Amazon logo
Ascona group
BAE Systems logo
Bluestone logo
Bouygues UK logo
DVLA logo
KIER logo
Mitie logo
NHS logo
Pembrokeshire county council logo
pobl logo
The Royal Mint
Swansea Bay University Health Board
Swansea Council
Tai Tarian
TATA Steel
VINCI logo
Virgin Atlantic

Cwestiynau Cyffredin

Cyfle i ddysgwyr ennill hyfforddiant ymarferol yn y byd go iawn wrth sicrhau cymhwyster cydnabyddedig. Fel prentis, byddwch yn ennill cyflog wrth ddysgu, gan feithrin y wybodaeth, y sgiliau a’r profiad y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt.

Bydd hyd bob prentisiaeth yn amrywio yn dibynnu ar lefel y cymhwyster. Ond fel arfer, bydd prentisiaeth yn cymryd 12-24 mis i’w gwblhau.

Ni fydd cyflogwyr yn talu am brentisiaethau. Gall Coleg Gŵyr Abertawe ddefnyddio cyllid gan Lywodraeth Cymru i dalu am gostau darparu neu hyfforddi. Fodd bynnag, disgwylir i gyflogwyr dalu cyflog y prentis.

I fod yn gymwys ar gyfer cyllid prentisiaeth, rhaid i brentisiaid fod mewn cyflogaeth am o leiaf 16 awr yr wythnos a rhaid iddynt fod yn byw yng Nghymru. Rhaid talu’r isafswm cyflog prentisiaethau (o leiaf), sef £5.28 yr awr, ond, gall cyflogwyr bennu’r cyflog.

Mae’r rhan fwyaf o’n prentisiaethau yn dechrau ar unrhyw adeg o’r flwyddyn, sy’n caniatáu i’r aelod o staff ddechrau ar gyfnod sy’n gyfleus i’r dysgwr a’r cyflogwr. Fodd bynnag, bydd rhai prentisiaethau yn dechrau ym mis Medi i gyd-fynd â diwrnodau dysgu'r Coleg. Siaradwch â'n tîm i gael rhagor o wybodaeth: training@gcs.ac.uk neu 01792 284400.

Gall prentisiaethau fod yn fanteisiol i sefydliadau mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys lleihau costau recriwtio, gwella cyfraddau cadw a boddhad staff, llenwi unrhyw fylchau mewn sgiliau, meithrin sgiliau mewnol, hybu amrywiaeth o fewn eich tîm a llawer mwy!

Bydd dull darparu ein prentisiaethau yn amrywio yn dibynnu ar lwybr y rhaglen, ond gellir darparu’r mwyafrif o’n prentisiaethau yn unol ag anghenion y dysgwr a’r cyflogwr. Gallwn gynnig gweithdai yn yr ystafell ddosbarth, darpariaeth o bell ar Teams neu Zoom neu ddull hybrid.

Wrth gwrs! Ar ôl cwblhau prentisiaeth, gall dysgwyr symud ymlaen i astudio lefel nesaf y brentisiaeth, astudio prentisiaeth arall neu ymgymryd â chymhwyster byrrach.

Rydym yn deall pwysigrwydd dod o hyd i’r prentis cywir ar gyfer eich sefydliad, ac mae ein tîm yma i’ch helpu chi. Gallwn drafod eich anghenion gan gynnwys nodau ac amcanion cyffredinol eich sefydliad, dulliau o hyrwyddo swyddi gwag, digwyddiadau perthnasol, sut i ddod o hyd i ymgeiswyr addas a llawer mwy. Cysylltwch â ni heddiw i ddechrau’r broses training@gcs.ac.uk - 01792 284400.

Os yw’r prentis yn sâl am gyfnod hir neu’n absennol oherwydd cyfnod mamolaeth/tadolaeth yn ystod y brentisiaeth, gall y Coleg oedi’r rhaglen gan ei hailddechrau unwaith y bydd y prentis yn dychwelyd i’r gweithle.