Teithio a Thwristiaeth
Mae cwrs teithio a thwristiaeth yn cynnig hyfforddiant galwedigaethol ac yn eich helpu i ddatblygu sgiliau cyfathrebu a rheoli busnes, gan ehangu eich cyfleoedd gyrfa.
Llwybrau gyrfa
- Rheoli atyniadau
- Criw cwmni hedfan/llong mordeithio
- Staff maes awyr
- Tywysydd teithio
- Asiant teithio
- Rheoli digwyddiadau
- Gwasanaethau cwsmeriaid
- Rheoli gwesty
- Blogiwr teithio
Sicrhau eich dyfodol
Gallech chi symud ymlaen i’r brifysgol neu gael cyflogaeth yn y diwydiant.
Edrychwch ar ein cyrsiau Teithio a Thwristiaeth
Cyflwyniad i Deithio a Thwristiaeth Lefel 2 - Diploma
Lefel 2 Diploma
Twristiaeth Uwch Lefel 3 - Diploma
Lefel 3 BTEC Extended Diploma
Newyddion

Myfyrwyr yn edrych ymlaen at Ddyfodol Creadigol
Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi cynnal digwyddiad Dyfodol Creadigol cyffrous, gan ddod â thalentau at ei gilydd o’i dimau ffasiwn, celf a dylunio, teithio a thwristiaeth, gwallt a cholur, cerddoriaeth, a chynhyrchu theatr dechnegol.
Cafodd y digwyddiad ei oruchwylio gan fyfyrwyr Teithio a Thwristiaeth y Coleg a ddyluniodd y deunyddiau hyrwyddo a’r bagiau o bethau da.

Myfyrwyr Teithio a Thwristiaeth yn disgleirio yn 4theRegion
Da iawn i’n myfyrwyr Teithio a Thwristiaeth Lefel 3 sy’n helpu yng Nghynhadledd Eich Abertawe Chi 4theRegion.
Mae’r myfyrwyr wedi bod yn brysur yn cyfarch mynychwyr, tywys arddangoswyr i’w stondinau ac arwain ymwelwyr o amgylch Arena Abertawe.
Am gyfle gwych i ennill profiad mewn digwyddiad go iawn gan gynrychioli’r Coleg mewn modd proffesiynol a brwdfrydig!

Cynhadledd Myfyrwyr Cymru i Bedwar Ban Byd
Roedd myfyrwyr Teithio a Thwristiaeth Coleg Gŵyr Abertawe yn gyffrous i fynd i Gynhadledd Myfyrwyr ‘Cymru i Bedwar Ban Byd’ ITT Future You ar ddydd Mawrth 27 Chwefror.