Skip to main content
Pro:Direct Football Academy

Academi Pêl-droed Dynion Pro:Direct

Mae gan Goleg Gŵyr Abertawe yr unig Academi Pêl-droed Pro:Direct a’r cyntaf yng Nghymru.

Mae Academi Pêl-droed De Cymru Pro:Direct yn rhoi modd i chwaraewyr hyfforddi’n amser llawn fel chwaraewyr proffesiynol, wrth astudio un o gyrsiau niferus y Coleg sy’n cyd-fynd â’r slotiau a’r gemau hyfforddi. Y cyrsiau mwyaf poblogaidd yw Tystysgrif Estynedig/Diploma Cenedlaethol mewn Pêl-droed, Hyfforddi a Pherfformiad (Gwerth un/tri chymhwyster Safon Uwch).
 
Buddion

  • Hyfforddiant a gemau
    • Sesiynau hyfforddi ddyddiol
    • 12-14 awr o hyfforddiant gydag UEFA A a hyfforddwyr trwyddedig y Gymdeithas Bêl-droed bob wythnos
    • Gemau cystadleuol wythnosol yn Uwch Gynghrair ECFA
    • Ffilm VEO a dadansoddiad
  • Rhaglenni ffitrwydd, adferiad a deiet ar lefel broffesiynol
    • Mynediad ffisiotherapi
    • Cynlluniau deiet a chyngor ar faeth
    • Hyfforddiant cryfder a chyflyru, cynlluniau campfa a sesiynau ffitrwydd
  • Dilyniant
    • Rhaglenni i ddatblygu chwaraewyr tuag at ennill Contract Proffesiynol
    • Llwybrau i brifysgolion y DU neu ysgoloriaethau pêl-droed yr Unol Daleithiau
  • Cyfleoedd eraill
    • Pecynnau ysgoloriaeth elit
    • Profiad gwaith a chyfleoedd cyflogaeth
    • Tocynnau gemau, teithiau o gwmpas stadiymau, gwibdeithiau, siaradwyr gwadd a gweithdai
    • Cyfleoedd a digwyddiadau brand Nike
    • Codau disgownt Pêl-droed Pro:Direct

Hyfforddwyr

Richard South, Pennaeth Academi De Cymru PDA a Rheolwr y Tîm 1af

Ymunodd Richard yn 2003, gan helpu i uno carfannau Abertawe a Gorseinon i greu Academi Pêl-droed Coleg Gŵyr Abertawe.

Mae gan Richard gyfoeth o brofiad, ar ôl gweithio i Ysgolion Pêl-droed Manchester United a Chlwb Pêl-droed Dinas Abertawe am dros 10 mlynedd. Mae hefyd wedi hyfforddi chwaraewyr dramor yn America, Asia ac Ewrop.

Andrew Stokes, Prif Hyfforddwr De Cymru PDA

Yn gyn-fyfyriwr y Coleg, bu Andrew yn rhan annatod o’r Academi ers 2014. Mae wedi gweithio i Ysgolion Pêl-droed Manchester United, Bechgyn Ysgol Abertawe a Dinas Abertawe ac mae wedi hyfforddi chwaraewyr dramor yn America, Asia, Affrica ac Ewrop.

Mae Andrew yn meddu ar Drwydded UEFA A ac mae’n Addysgwr Hyfforddwr i Gymdeithas Pêl-droed Cymru yn ogystal â Rheolwr Cynghrair JD Cymru.

Ymunwch yr academi

Rydyn ni’n chwilio am y chwaraewyr gorau i ymuno â’r Academi hon. Os oes gennych ddiddordeb neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, e-bostiwch southwales@prodirectacademy.com.

Gallwch chi ddilyn yr Academi ar Instagram neu Twitter hefyd.

Pro:direct logo