Fel myfyriwr Addysg Uwch ag anabledd, gallet ti fod yn gymwys i gael cymorth trwy Lwfans i Fyfyrwyr Anabl.
Mae’r Lwfans yn helpu i dalu tuag at gostau ychwanegol sydd gennyt wrth astudio ar dy gwrs o ganlyniad uniongyrchol i dy anhawster. Gelli di ddysgu rhagor am y Lwfans i Fyfyrwyr Anabl a sut i wneud cais trwy fynd i gov.uk.
Gwna gais am y Lwfans cyn gynted ag y gelli di i sicrhau dy fod yn cael cymorth cyn gynted â phosib.
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnat, cysyllta â’r tîm ar learningsupport@gcs.ac.uk.