Skip to main content

Broadway Canolfan Gwallt, Harddwch a Holisteg

Mae ein myfyrwyr yn darparu triniaethau o’r safon orau sy’n cynnig gwerth da am arian yn ein salonau o safon broffesiynol.

Cynigiwn amrywiaeth o wasanaethau steilio a lliwio gwallt gan ddefnyddio’r brandiau salon gorau. Gallwch bampro’ch hunan gyda’r triniaethau harddwch a gofal croen gorau gan gynnwys microdermabrasion a therapi ocsigen yn ogystal â thriniaethau i’r aeliau a’r amrantau, triniaethau i’r dwylo a’r traed a chwyro. Anghofiwch am eich poenau gydag un o’n triniaethau tylino moethus.

Cysylltwch â ni drwy ffonio
01792 284049

Mae apwyntiadau ar gael (yn ystod y dydd a gyda’r hwyr) yn ystod y tymor yn unig.
Bydd argaeledd y triniaethau yn amrywio drwy gydol y flwyddyn academaidd yn dibynnu ar gamau dysgu gwahanol y dysgwyr.

Mae tocynnau rhodd ar gael.

Sut i ddod o hyd i ni

Canolfan Gwallt, Harddwch a Holisteg Broadway
Coleg Gŵyr Abertawe
Campws Tycoch
Abertawe SA2 9EB

01792 284049

Ewch ar daith

Cer ar daith rithwir o amgylch Campws Broadway i ddarganfod yr ystod eang o gyfleusterau arbenigol sydd ar gael i fyfyrwyr, gan gynnwys tanc arnofio sych, byrddau tylino a salonau gwallt.