Vanilla Pod

 

Mae ein myfyrwyr Lletygarwch ac Arlwyo yn cynhyrchu ac yn gweini bwyd o safon, am brisiau gwych yn ein bwyty hyfforddi sy’n debyg i bistro.

Adborth gan Gwsmeriaid

Noson wych – rydyn ni’n gwsmeriaid rheolaidd sydd wedi mwynhau sawl pryd o fwyd yn y lleoliad hwn."

Am bryd o fwyd bendigedig. Mae’r gwasanaeth wedi creu argraff fawr arna i...mae’n bleser gweld pobl ifanc yn mwynhau ac yn dangos brwdfrydedd o’r fath. Da iawn."

Roedd y pryd o fwyd heno’n wych, y gwasanaeth heb ei ail ac mae’r staff bob amser yn glên."

Wedi mwynhau’r bwyd bendigedig – da iawn. Mae dyfodol disglair o’u blaenau."

Pryd o fwyd ardderchog gyda blasau bendigedig a chyflwyniad gwych. Da iawn!"

Noson bleserus a gwerth ardderchog am arian – mae staff yn rhoi llawer o ymdrech i mewn i’r cyflwyniad a’r gwasanaeth. Daliwch ati."

Arolygiad hylendid ardderchog i’r Vanilla Pod

Rydym yn falch o gyhoeddi bod y Vanilla Pod wedi ennill sgôr o 5 - y sgôr hylendid uchaf bosibl.

Cadw Bwrdd Nawr

 

Cinio Canol Dydd

Dydd Mercher a Gwener
12-2pm (archebion olaf 1.15pm)

Cinio Gyda'r Hwyr

Dydd Iau
6-9pm (archebion olaf 6.30pm)

 

I gadw bwrdd yn y Vanilla Pod, ffoniwch 01792 284252/284218.
Mae'r bwyty ar agor yn ystod y tymor yn unig.

Vanilla Pod

Lleolir y Vanilla Pod ar gampws Tycoch.