Skip to main content
Part time students

Sut i wneud cais a chofrestru ar gyfer cwrs rhan-amser

Mae’r rhan fwyaf o gyrsiau’n llenwi’n gyflym felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud cais yn gynnar i osgoi cael eich siomi. 

Bydd y ffordd y byddwch yn gwneud cais a chofrestru yn dibynnu ar y math o gwrs rhan-amser a ddewiswch. 

Ar gyfer cyrsiau addysg uwch / prifysgol, rhaid i chi wneud cais trwy’r botwm 'lenwi ein ffurflen ymholiad Addysg Uwch' ar dudalen wybodaeth y cwrs perthnasol. 

Ar gyfer cyrsiau ein braich hyfforddiant busnes (Hyfforddiant GCS) bydd rhaid ffonio 01792 284400 i ymholi a chadw lle. 

Ar gyfer yr holl gyrsiau rhan-amser eraill dilynwch y dolenni ar dudalen y cwrs perthnasol. Os byddwch chi’n gweld opsiwn COFRESTRU ar dudalen y cwrs, gallwch gofrestru yn uniongyrchol drwy’r wefan.

Pan fydd angen cyfweliad, cliciwch ar Trefnu cyfweliad dros y ffôn. Bydd tîm y cwrs yn cysylltu â chi cyn gynted ag y bo modd. Os byddwch chi’n gwneud cais yn ystod gwyliau’r haf, mae’n bosibl na fydd ein staff addysgu yn cysylltu â chi cyn 21 Awst 2023. Bydd eich cyfweliad yn digwydd dros y ffôn fel arfer. Byddwn ni’n anfon dolen ddiogel atoch er mwyn cofrestru yn dilyn eich trafodaeth â’r tîm cwricwlwm. Neu, dewch i siarad â ni yn ein nosweithiau agored.

Os na allwch gofrestru ar-lein, dewch i gampws Tycoch rhwng 9am a 4.30pm, dydd Llun i ddydd Gwener.

Rhaid bod dysgwyr yn 16 oed neu hŷn er mwyn cofrestru ar un o’n cyrsiau rhan-amser. 

Yn achos myfyrwyr rhyngwladol, bydd cost y cyrsiau’n dibynnu ar statws preswylio a faint o amser a dreulir yn y DU. Ffoniwch ein swyddfa Ryngwladol ar 01792 284007 neu e-bostiwch international@gcs.ac.uk