Skip to main content

TGAU

Ailsefyll TGAU - Ymadawyr ysgol

Peidiwch â phoeni os na lwyddoch chi i sicrhau graddau ar gyfer Saesneg, Mathemateg, Gwyddoniaeth neu Gymraeg (iaith gyntaf). Gallwch ailsefyll y rhain yn ystod eich blwyddyn gyntaf ochr yn ochr â’ch astudiaethau eraill.

Gallwch chi astudio am un diwrnod yr wythnos ac ailsefyll arholiadau ym mis Mai, cyn casglu’ch canlyniadau ym mis Awst.

Fel arfer, bydd y dosbarthiadau’n llai o lawer na’r dosbarthiadau rydych chi wedi arfer â nhw yn yr ysgol. Mae hyn yn golygu y byddwch yn derbyn mwy o gymorth yn ystod eich astudiaethau, gan gynnwys cymorth gan diwtoriaid eraill.

TGAU - Oedolion

Os ydych chi am sicrhau cymwysterau i roi hwb i’ch cyflogadwyedd ac ennill sgil ychwanegol, gallwch gofrestru ym mis Medi ar gyfer rhaglenni TGAU mewn Saesneg, Mathemateg, Gwyddoniaeth neu Gymraeg (iaith gyntaf).

Os ydych chi eisoes wedi ennill gradd D neu’n gyn-fyfyriwr ESOL sydd wedi sicrhau Lefel 2, gallwn gynnig darpariaeth wyneb yn wyneb neu o bell ar gyfer cymwysterau TGAU mewn Saesneg a Mathemateg.

Cofrestrwch nawr i ddechrau ym mis Medi 2024.