Ymadawyr Ysgol
Cyrsiau amser llawn ar gael ar gyfer ymadawyr ysgol (16-18)
Mae astudio gyda’r Coleg yn gam cyffrous ar dy daith tuag at sicrhau annibyniaeth a dyfodol disglair!
Rydyn ni’n cynnig ystod eang o gyrsiau sy’n dy ganiatáu i archwilio dy angerdd wrth ennill y cymwysterau a’r sgiliau sydd eu hangen i sicrhau dy yrfa ddelfrydol.
Rydyn ni yma i dy arwain drwy’r cyfnod pontio cyffrous i Goleg Gŵyr Abertawe, gan gynnig gogwydd newydd ar dy astudiaethau.
Safon Uwch
Yn gyffredinol, mae pynciau Safon Uwch yn cael eu hastudio dros ddwy flynedd ac yn cael eu rhannu’n ddwy ran. Y flwyddyn gyntaf yw’r Safon UG, gydag asesiadau allanol ar y diwedd. Yna byddwch yn symud ymlaen i Safon U2 yn yr ail flwyddyn gyda rhagor o arholiadau i ennill y Dyfarniad Safon Uwch llawn. Rydym yn cynnig tua 40 o bynciau Safon Uwch ar ein campws yng Ngorseinon.
Galwedigaethol
Mae ein cyrsiau galwedigaethol wedi’u dylunio i arwain at yrfaoedd penodol ac felly os ydych yn gwybod pa swydd yr hoffech ei gwneud pan fyddwch yn gadael y coleg, bydd y cyrsiau hyn yn addas i chi. Mae gwahanol lefelau ac felly gallwch ddewis yr un sydd orau i chi, gyda’r cyfle i symud ymlaen i’r lefel nesaf. Addysgir cyrsiau galwedigaethol ar bob un o'n campysau.
Prentisiaethau
Ydych chi am ennill wrth ddysgu? Ariennir rhaglenni Prentisiaeth gan Lywodraeth Cymru ac maen nhw’n rhoi cyfle i chi gael profiad a chymwysterau wrth weithio – ac ni fyddant yn costio ceiniog i chi. Mae dewis o bron 50 o lwybrau gyrfa gwahanol gennym.
Meysydd cwrs
Rhaglen Anrhydeddau
Anrhydeddau CGA yw’r rhaglen cymorth a chyfoethogi academaidd i fyfyrwyr a hoffai wneud cais i’r prifysgolion gorau yn y DU a thu hwnt
Dilyniant i Addysg Bellach
Mae'r cyrsiau hyn yn agored i ddysgwyr 16-19 oed sy'n ansicr ynghylch y llwybr gyrfa y maent am ei ddilyn.
Rhaglen Sylfaen Safon Uwch
Mae’r Rhaglen Sylfaen Safon Uwch yn gyfle i chi wella’ch graddau TGAU mewn Saesneg a Mathemateg wrth astudio cyrsiau craidd eraill.
Ailsefyll arholiadau TGAU
Peidiwch â phryderu os na chawsoch y graddau ar gyfer Saesneg, Mathemateg, Gwyddoniaeth neu Gymraeg (Iaith Gyntaf), gallwch ailsefyll yr arholiadau hyn yn eich blwyddyn gyntaf.
Nosweithiau agored
Mae ein digwyddiadau a’n nosweithiau agored yn rhoi’r cyfle perffaith i chi gael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch am astudio yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.
Academïau a chlybiau chwaraeon
Rydym am wneud chwaraeon elit a hamdden yn hygyrch i fyfyrwyr. Mae ymuno ag academi neu glwb chwaraeon yn golygu y gallwch ymgorffori chwaraeon/ffitrwydd yn eich profiad dysgu.
Bywyd Myfyriwr
Cymuned fywiog lle mae dysgu a hwyl yn mynd law yn llaw. Cymerwch ran yng ngweithgareddau myfyrwyr ar draws ein campysau ac ewch i’n llyfrgelloedd i ymuno â chlybiau a chwrdd â ffrindiau newydd sy’n debyg i chi.
Cymorth
Rydym yma i’ch cefnogi chi trwy gydol eich amser gyda ni a thu hwnt. P’un ai a oes angen help arnoch gyda’ch cwrs, gyrfaoedd, anghenion ychwanegol, materion personol, teuluol neu ariannol, mae gennym gyfleusterau i’ch helpu.