Gorseinon

 

Mae mwy na 2000 o fyfyrwyr amser llawn yn astudio ar Gampws Gorseinon, lle mae ganddynt ddewis o bron 40 o bynciau Safon Uwch ac amrywiaeth eang o gyrsiau galwedigaethol. Mae cymorth i fyfyrwyr yn ganolog i’n gweithgareddau ac mae cyfleusterau’r Campws yn cael eu huwchraddio’n gyson i greu amgylchedd sy’n rhoi modd i fyfyrwyr gyrraedd eu potensial.

Ymhlith y cyfleusterau arbenigol a ddarperir mae labordai gwyddoniaeth, ystafelloedd cerbydau modur a chanolfan ar gyfer y celfyddydau perfformio a chreadigol.

Mae estyniad newydd sbon i ffreutur y myfyrwyr – sef Cwtsh Coffi Gorseinon – bellach wedi'i gwblhau. Mae'r prosiect £2 filiwn yn gartref i ardal goffi Costa newydd gyda wi-fi hygyrch, sgriniau teledu a seddau ychwanegol ar gyfer hyd at 110 o fyfyrwyr.

Noson agored amser llawn nesaf yng Ngorseinon: Nos Lun 4 Mawrth 2024   Rhagor o wybodaeth

 

Cer ar daith rithwir o amgylch Campws Gorseinon i gael cip ar yr ystafelloedd dosbarth, ardaloedd cyffredin a’r cyfleusterau sydd ar gael i’n myfyrwyr amser llawn

 

Cer am dro o amgylch cartref ein myfyrwyr ar gampws Gorseinon. Mae gan y Bloc Celfyddydau gyfleusterau ar gyfer celfyddydau cain, celfyddydau perfformio, cerddoriaeth, ffotograffiaeth yn ogystal â Chanolfan Ffasiwn a Thecstilau.

 

Cer am dro o amgylch Theatr Einon, ein llwyfan ar gyfer myfyrwyr celfyddydau perfformio a chynhyrchu theatr.

Oriau Agor yn ystod y Tymor

Dydd Llun i Ddydd Iau - 8.30am i 5pm
Gwener - 8.30am i 4.30pm

Manylion Cyswllt

Heol Belgrave
Gorseinon
Abertawe
SA4 6RD
Ffôn: 01792 890700

Arddangosfeyd Celf Rithwir

 

 

Lefel 3

Lefel A