Nod Coleg Gŵyr Abertawe yw bod yn gyflogwr o ddewis yn y rhanbarth ac felly rydym wedi datblygu amrywiaeth o fuddion rhagorol i staff gan gynnwys:
Bydd yr holl staff cymorth busnes yn cael 28 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn ynghyd â gwyliau banc.
Bydd staff addysgu yn cael 46 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn ynghyd â gwyliau banc.
Bydd pob aelod o staff hefyd yn cael pum diwrnod effeithlonrwydd ychwanegol ar gyfer y cyfnod cau dros y Nadolig.
Ar ôl pum mlynedd o wasanaeth, dyfernir pedwar diwrnod gwyliau blynyddol ychwanegol i staff.
Mae'r Coleg wedi ymrwymo i'r cyflog byw dyheadol, gan sicrhau bod yr holl staff yn cael eu talu o leiaf £13.45 yr awr.
Cynigir pob cyflog ar raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol. Mae dyfarniadau cyflog yn cael eu trafod yn genedlaethol ac felly bydd staff yn cael dyfarniad cyflog blynyddol gan sicrhau bod ein cyflog yn parhau i fod yn gystadleuol.
Rydym yn cofrestru ein holl staff i un o ddau gynllun pensiwn: Cynllun Pensiwn Athrawon neu Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol. Mae'r ddau gynllun yn gynlluniau cyfartaledd gyrfa mynegrifol ac mae'r Coleg yn gwneud cyfraniadau sylweddol. Mae gan y ddau gynllun fantais ychwanegol o fuddion yswiriant bywyd a buddion ymddeoliad oherwydd afiechyd.
Rydym yn cynnal seminarau pensiwn blynyddol a seminarau cynllunio ariannol canol-gyrfa i'ch helpu i gynllunio ar gyfer eich ymddeoliad a chael y mwyaf allan ohono.
Mae’r Coleg yn cymryd lles ei staff o ddifrif ac yn falch o fod wedi ennill Gwobrau Iechyd Corfforaethol Efydd, Arian ac Aur.
Mae digwyddiadau ac ymgyrchoedd lles yn cael eu cynnal yn barhaus trwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys Ar Eich Traed Prydain, Digwyddiad Rhoi’r Gorau i Ysmygu, Ymwybyddiaeth o Ganser y Fron, ac Wythnos Iechyd Dynion.
Mae gan bob aelod o staff fynediad at Raglen Cymorth Gweithwyr sy’n darparu gwasanaeth cwnsela 24/7 a mynediad at linell gymorth gyfreithiol.
Rydym hefyd ar hyn o bryd yn darparu tanysgrifiad blynyddol am ddim i ap Headspace Mindfulness.
Gall staff sydd eisiau cadw’n heini fwynhau aelodaeth ar bris gostyngol yng Nghanolfan Chwaraeon Tycoch.
Pris aelodaeth ar gyfer staff yw £60 y flwyddyn, neu gallwch dalu £150 am aelodaeth teulu a fydd yn cynnwys mynediad i chi a dau berson ychwanegol. Rydyn ni hefyd yn cynnig amrywiaeth o ddosbarthiadau am £3 bob sesiwn, gan gynnwys sesiynau Troelli a Pilates.
Mae ystod eang o gyfleusterau ar gael yn y Ganolfan Chwaraeon, gan gynnwys ystafell gyflyru o’r radd flaenaf sy’n cynnwys peiriant grisiau, melinau rhedeg, pwysau rhydd, ystafell bŵer, ardal focsio a neuadd chwaraeon amlbwrpas.
Mae gan staff fynediad i wasanaeth cyngor a chymorth diduedd cyfrinachol, 24 awr y diwrnod, 365 diwrnod y flwyddyn. Mae'r gwasanaeth yn rhad ac am ddim i staff pryd bynnag y bydd ei angen. Mae'r cymorth yn cynnwys cyngor cyfreithiol a chyngor ar les yn ogystal â gwasanaeth cwnsela.
- Gweithio hyblyg
- Cynllun talebau gofal plant
- Cynllun beicio i'r gwaith
- Cynllun arian gofal iechyd
- Cyfleoedd astudio gyda disgownt ar raglenni'r Coleg
- Mynediad i gyfleusterau a thriniaethau therapi cyfannol a chyflenwol.