Bywyd Myfyriwr
Yng Ngholeg Gŵyr Abertawe mae ‘na gymuned fywiog lle mae dysgu a hwyl yn mynd law yn llaw. Cymerwch ran yn y gweithgareddau i fyfyrwyr ar draws ein campysau, ymweld â’r llyfrgelloedd ac ymuno â chlybiau i gwrdd â ffrindiau.
Cyfoethogi
Mae bywyd y myfyriwr yn ymestyn y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth, gan gynnig gweithgareddau cyfoethogi amrywiol. Gallwch gymryd rhan mewn e-chwaraeon cystadleuol, datblygu gemau, neu gynorthwyo gydag elusen y Coleg sef Prosiect Addysg Gymunedol Cenia.
Academïau a chlybiau chwaraeon
Dewch i wella eich sgiliau a chymryd rhan mewn academi neu glwb chwaraeon! Byddwch yn elwa ar hyfforddiant arbenigol ar gyfer pob lefel o bêl-droed, pêl-rwyd, a rygbi, gan gynnwys sesiynau hyfforddi gyda hyfforddwyr gwadd nodedig o fyd chwaraeon.
Canolfan Chwaraeon
Fel myfyriwr, gallwch gael disgownt ar eich aelodaeth o Ganolfan Chwaraeon y Coleg, a leolir ar Gampws Tycoch, sy’n cynnig amrywiaeth o gyfarpar a dosbarthiadau amrywiol i weddu i bob lefel o ffitrwydd.
Myfyrwyr-lysgenhadon
Mae Myfyrwyr-lysgenhadon yn gynrychiolwyr brwdfrydig o’r Coleg, ac yn chwarae rhan hanfodol wrth groesawu a rhoi gwybodaeth i ddarpar fyfyrwyr. Dewch i fod yn Fyfyriwr-lysgennad a chynrychioli ein Coleg â balchder!
Disgowntiau i fyfyrwyr
Mae’n wych bod yn fyfyriwr! A’r hyn sy’n well fyth yw bod Coleg Gŵyr Abertawe yn ymrwymedig i’ch helpu i arbed arian ar y pethau rydych chi’n hoff iawn ohonynt ac sydd eu hangen arnoch.
Undeb y Myfyrwyr
Mae Undeb y Myfyrwyr yn ganolog i fywyd y campws ac mae’n cynnal digwyddiadau, clybiau a gweithgareddau cyffrous sy’n darparu ar gyfer diddordebau amrywiol. Gallech chi hyd yn oed fod yn rhan o Grŵp Rheoli Undeb y Myfyrwyr i helpu i lywio dyfodol y Coleg.