Skip to main content

Gwybodaeth am gyllid myfyrwyr (Addysg Uwch)

Ar gyfer ceisiadau yn ystod y flwyddyn academaidd hon, bydd ffioedd dysgu’n dibynnu ar y cwrs yr hoffech ei astudio, felly edrychwch ar y cardiau cwrs unigol yn ofalus.

Ble rydych chi’n byw a’ch statws yn y DU fydd yn penderfynu pa gyllid myfyrwyr sydd ar gael i chi. Fel rheol, rhaid eich bod yn ddinesydd yn y DU, â statws preswylydd sefydlog, ac wedi byw yn y DU am o leiaf dair blynedd er mwyn derbyn cyllid myfyrwyr.

Mae manylion ar gael yn 'Darganfod cyllid myfyrwyr'.

 

  1. Cyrsiau amser llawn
  2. Cyrsiau rhan-amser
  3. Ad-dalu benthyciadau
  4. Grantiau Cymorth Arbennig
  5. Gwneud Cais
  6. Cofrestru
  7. Talu Ffioedd
  8. Bwrsarïau
  9. Os byddwch yn penderfynu tynnu’n ôl
  10. Os ydych wedi cael eich gordalu
  11. Y broses ar gyfer Cyllid Myfyrwyr – Beth sy’n digwydd ar gyfer pob myfyriwr?

 

Cyrsiau amser llawn

Mae cyllid (benthyciadau a grantiau) ar gael i dalu am gost eich dysgu a’ch costau byw tra byddwch yn astudio. Mae cyllid grant arall ar gael hefyd yn dibynnu ar eich amgylchiadau, megis lwfans myfyrwyr anabl a grantiau dibynyddion. Telir y grantiau hyn i fyfyrwyr cymwys yn ychwanegol at y prif gyllid myfyrwyr ac fel arfer nid oes rhaid i chi eu had-dalu.

Mae angen i fyfyrwyr wneud cais am y canlynol:

  • Benthyciad Ffi Dysgu am eich cwrs cyfan (fesul blwyddyn, a delir yn uniongyrchol i’r Brifysgol)
  • Benthyciad Cynhaliaeth / Grant Dysgu LlC – i helpu gyda’ch costau byw, sy’n cynnwys benthyciadau a grantiau, yn dibynnu ar eich amgylchiadau, hyd at uchafswm y lwfans.

Y cymorth cynhaliaeth mwyaf sydd ar gael yw cyfuniad o grantiau a benthyciadau. Y trothwyau presennol yw:

  • Myfyrwyr sy’n byw i ffwrdd o gartref – uchafswm o £12,150
  • Myfyrwyr sy’n byw gartref - uchafswm o £10,315

I fyfyrwyr sy’n byw yng Nghymru, ewch i – www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk
I fyfyrwyr sydd â’u domisil yn Lloegr - www.gov.uk/student-finance
I fyfyrwyr sydd â’u domisil yn yr Alban - www.saas.gov.uk
I fyfyrwyr sydd â’u domsil yng Ngogledd Iwerddon - www.studentfinanceni.co.uk

Bydd pob myfyriwr yng Nghymru yn cael Grant Cynhaliaeth £1,000 o leiaf sy’n gallu cynyddu i hyd at £8,100 yn dibynnu ar incwm eich cartref ac a ydych yn byw yng nghartref y teulu. Byddwch yn ychwanegu at hyn gyda Benthyciad Cynhaliaeth, sydd ar gael hyd at yr uchafswm (uchod).

Cyrsiau rhan-amser

Gallech wneud cais am fenthyciad ffioedd dysgu hyd at £2,625 – mae’r swm yn dibynnu ar faint y mae’r Brifysgol neu’r Coleg yn ei godi arnoch. 
Grantiau a benthyciadau cynhaliaeth - mae’r rhain yn dibynnu ar incwm y cartref a dwysedd y cwrs. Uchafswm y grantiau a’r benthyciadau sydd ar gael yw £6,724 (yn dibynnu ar ddwysedd y cwrs).

Ad-dalu benthyciadau

Pan fyddwch yn ennill £27,295 ym mis Ebrill ar ôl gadael eich cwrs, gwneir hyn trwy’r system dreth (cynllun Talu Wrth Ennill, Hunanasesiad), gall y swm hwn newid bob blwyddyn treth.

D.S. Nid oes rhaid ad-dalu’r grant cynhaliaeth.

Grantiau Cymorth Arbennig

Mae Grantiau Cymorth Arbennig wedi disodli rhai neu bob un o Grantiau Dysgu Llywodraeth Cymru i fyfyrwyr mewn amgylchiadau eithriadol. Os ydych yn gymwys, gall myfyrwyr gael y £5,161 cyntaf fel Grant Cymorth Arbennig. Bydd unrhyw beth dros hyn yn Grant Dysgu Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn golygu y bydd myfyrwyr sydd ar yr incwm is yn gallu cael arian ychwanegol.

Mae grantiau eraill ar gael hefyd, yn dibynnu ar eich amgylchiadau, fel Lwfans i Fyfyrwyr Anabl a Grantiau Dibynyddion. Telir y grantiau hyn i fyfyrwyr cymwys yn ychwanegol at y prif gyllid myfyrwyr ac fel arfer nid oes rhaid eu had-dalu.

Gwneud Cais

Mae ceisiadau fel arfer yn agor ym mis Mawrth. Bydd angen i chi greu cyfrif i chi’ch hun, ac yna dechrau’ch cais ar-lein, mae’n gyflym ac yn hawdd ac mae’n cymryd tua 30 munud. (Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud cais am y flwyddyn academaidd gywir). Cadwch nodyn o’ch Cyfeirnod Cwsmer a’ch ateb cyfrinachol (ar wahân). Bydd eu hangen nhw arnoch wrth fewngofnodi eto i’ch cyfrif.

Darllenwch y canllawiau sydd ar gael ar y wefan yn ofalus, bydd angen eich rhif pasbort arnoch (os oes un gennych), eich rhif Yswiriant Gwladol, a’ch manylion Banc er mwyn cwblhau’ch cais.

Mae’r cyrsiau rydym yn eu haddysgu yn rhai breiniol yn bennaf gan ein Prifysgolion partner; dylech ddefnyddio’r tabl isod i sicrhau eich bod yn dewis y Brifysgol bartner gywir wrth wneud eich cais.

Full-time
TeitlDewis y Brifysgol / ColegCod UCASCymhwyster a MathFfi Myfyrwyr Blwyddyn 1afFfi Myfyrwyr 2il Flwyddyn
Cyfrifeg GymhwysolPrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCDDS)I358HND£9,535£9,000
Rheoli BusnesPrifysgol De Cymru (PDC)NN41HND£7,500£7,500
Rheoli Busnes (Marchnata) YchwanegolPrifysgol De Cymru (PDC)N79MBA (Hons)£9,535N/A
Rheoli Busnes (Cyfrifeg) YchwanegolPrifysgol De Cymru (PDC)N79ABA (Hons)£9,535N/A
Ymarfer Datblygiad PlentyndodPrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCDDS)5G12BA (Hons)£9,535£9,000
Peirianneg Drydanol ac ElectronigPrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCDDS)2H99HND£9,535£9,000
Addysg, ADY ac Iechyd MeddwlPrifysgol Metropolitan CaerdyddF160BA (Hons)£9,250£9,000
e-ChwaraeonPrifysgol De Cymru (PDC)F170Foundation Degree£7,500£7,500
Peirianneg FecanyddolPrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCDDS)8N2GHND£9,535£9,000
Hyfforddiant a Pherfformiad ChwaraeonPrifysgol AbertaweF180BA (Hons)£9,535£9,535
Part-time
TeitlDewis y Brifysgol / ColegCod UCASCymhwyster a MathFfi Myfyrwyr Blwyddyn 1afFfi Myfyrwyr 2il Flwyddyn
Gwyddoniaeth Gymhwysol (Cemeg)Coleg Gŵyr Abertawe (CGA)N/AHNC£2,100£1,200
Rheoli AdeiladuColeg Gŵyr Abertawe (CGA)N/AHNC£2,340£2,340
Addysg, ADY ac Iechyd MeddwlPrifysgol Metropolitan CaerdyddN/ABA (Hons)*£2,625*£2,625
Peirianneg Drydanol ac ElectronigPrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCDDS)N/AHNC and HND£2,340£2,100
Peirianneg FecanyddolPrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCDDS)N/AHNC and HND£2,340£2,100
PgCE/ProfCE (AHO)Prifysgol De Cymru (PDC)N/APgCE/ProfCE (PCET)£2,835£2,700

*Mae BA (Anrh) Addysg, ADY ac Iechyd Meddwl yn gwrs pum mlynedd rhan-amser. Y costau fydd £2,625 fesul blwyddyn academaidd. 

Rhoi Gwybodaeth am y Coleg a’r Cwrs:

Rhowch enw’r Brifysgol/Coleg breinio.

Dewiswch o’r cyrsiau yn y rhestr, gwyliwch am Coleg Gŵyr Abertawe, neu CGA yn nheitl y cwrs, neu teipiwch y rhif UCAS perthnasol (fel uchod), a dewiswch pan fydd y cwrs yn ymddangos (bydd y cwrs yn troi’n felyn pan fyddwch chi’n ei dderbyn).

Cadarnhewch y Ffi Dysgu:

Mae’r Brifysgol Breinio yn gosod ein ffioedd sydd i’w gweld uchod. Defnyddiwch y ffigurau hyn i ateb y cwestiynau am eich ffioedd. Bydd rhaid i fyfyrwyr dalu neu gael benthyciad ffi dysgu am y swm llawn. Byddwch chi’n gweld y ffigur hwn ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.

Mae caniatáu i’r Brifysgol/Coleg ddiweddaru gwybodaeth am y bethyciad ffi dysgu yn dileu’r angen i chi addasu’ch cais yn nes ymlaen.

Gwnewch gais am unrhyw Grant Cynhaliaeth, Benthyciad Cynhaliaeth, ac unrhyw gymorth arall yr hoffech ei dderbyn.

Ar ôl gorffen eich cais, bydd Cyllid Myfyrwyr Cymru yn gohebu â chi drwy e-bost a llythyr. Gwyliwch allan am eu negeseuon e-bost, byddan nhw’n dweud wrthych beth i’w wneud nesaf, a pha dystiolaeth y bydd rhaid i chi ei darparu. Gwnewch nodyn o’ch Cyfeirnod Cwsmer.

Gallwch gyrchu’ch cais ar unrhyw adeg drwy fewngofnodi eto i Gyllid Myfyrwyr Cymru. Os ydych chi eisoes wedi gwneud cais am gyllid, ond nid oeddech yn gallu atodi coleg neu gwrs, dylech fewngofnodi eto, a diweddaru manylion eich coleg a’ch cwrs, i osgoi unrhyw broblemau gyda’ch taliadau.

Cofrestru

Rhaid i chi gofrestru fel myfyrwir gyda CGA A gyda’ch Prifysgol Breinio.

Trefniadau Cofrestru gyda CGA:
Bydd cofrestru’n digwydd ar-lein; byddwn ni’n anfon e-bost atoch cyn dechrau’ch cwrs gyda dolen i’r ffurflen gofrestru.

Trefniadau Cofrestru gyda’r Brifysgol Breinio:
Byddwch yn derbyn cyfarwyddiadau ar yr hyn y mae angen i chi ei wneud.

Talu Ffioedd

Os yw’ch benthyciad ffi dysgu wedi cael ei gymeradwyo a’ch bod yn nodi ar eich cais am gyllid bod y ffi yn cael ei thalu’n unongyrchgol i’r coleg, ni fyddwch yn derbyn anfoneb. 

Os byddwch yn dewis bod y ffi dysgu yn cael ei thalu’n uniongyrchol i chi’ch hun, bydd y coleg yn anfon anfoneb atoch am y ffioedd llawn.

Bydd unrhyw ffioedd sy’n weddill yn daladwy yn llawn gan y myfyriwr a gall eu talu’n llawn pan gaiff yr anfoneb neu mewn rhandaliadau cyfartal dros y tri thymor. 

Bwrsarïau

Mae bwrsarïau o £1,000 yn daladwy ar gyfer pob cwrs amser llawn, ac mae cymhwystra’n berthnasol. Ewch i’r wefan i gael manylion.

Os byddwch yn penderfynu tynnu’n ôl

Os byddwch yn penderfynu eich bod am dynnu’n ôl o’r coleg neu newid i gwrs gwahanol rhowch wybod i ni cyn gynted ag sy’n bosibl fel y gallwn eich helpu a mynd â chi drwy’r broses. 

Os byddwch yn tynnu’n ôl dylech ffonio Cyllid Myfyrwyr Cymru a gofyn iddyn nhw rwystro’ch taliadau. 

Bydd y coleg yn rhoi gwybod i Gyllid Myfyrwyr eich bod wedi tynnu’n ôl, ac wedyn bydd eich cyllid myfyriwr yn cael ei ailasesu yn seiliedig ar nifer y diwrnodau y gwanethoch fynychu’ch cwrs. Bydd unrhyw daliadau i chi neu’r coleg yn cael eu hatal a byddwch yn derbyn llythyr hawl cyllid myfyriwr newydd. Yn dibynnu ar y dyddiad y gwnaethoch dynnu’n ôl, a’r dyddiad yr hysbyswyd Cyllid Myfyrwyr mae’n bosibl eich bod wedi cael eich gordalu.

Ffioedd dysgu

Gwneir taliadau ffi dysgu gan Gyllid Myfyrwyr mewn tri rhandaliad: 25% yn nhymor 1; 25% yn nhymor 2 a’r 50% sy’n weddill yn nhymor 3. Os byddwch yn tynnu’n ôl o’ch cwrs heb wneud y tymor llawn, rydych chi’n atebol am y ffi am y tymor hwnnw. Ni fydd Cyllid Myfyrwyr yn talu unrhyw fenthyciad ffi dysgu ar ôl i chi dynnu’n ôl. Os byddwch yn tynnu’n ôl, dyma’r ffi sy’n daladwy:

  • Tynnu’n ôl yn ystod tymor 1 - 25%
  • Tynnu’n ôl yn ystod tymor 2 - 50%
  • Tynnu’n ôl yn ystod tymor 3 - 100% 

Sylwch y gallai hyn amrywio ychydig yn ôl y partner prifysgol

Os ydych wedi cael eich gordalu

Os ydych wedi cael eich gordalu, bydd Cyllid Myfyrwyr yn cysylltu â chi i roi gwybod i chi am sut i ad-dalu unrhyw gyllid myfyrwyr ychwanegol rydych wedi’i dderbyn. Mae’n bosibl y bydd rhaid i chi ad-dalu hyn cyn eich bod yn ennill mwy na’r trothwy ad-dalu.

Y broses ar gyfer Cyllid Myfyrwyr – Beth sy’n digwydd ar gyfer pob myfyriwr?

  • Rhaid i’r Brifysgol gadarnhau pob cofrestriad a phresenoldeb (Byddwch yn amyneddgar gan fod y prifysgolion yn prosesu miloedd o gofnodion myfyrwyr ac mae hyn yn cymryd amser, maen nhw’n prosesu mewn sypiau ac felly mae’n bosibl na fyddwch ar yr un cam â myfyrwyr eraill ar eich cwrs)
  • Pan fydd y Brifysgol wedi’i gadarnhau, gall gymryd hyd at 48 awr i ddiweddaru cyllid myfyriwr
  • Gall gymryd hyd at 5 diwrnod gwaith i’r taliad cynhaliaeth gyrraedd eich cyfrif banc

*Pwysig - Gwnewch yn siŵr eich bod wedi rhoi’r brifysgol a’r cwrs cywir ar eich cais am gyllid myfyriwr. Bydd newid hyn yn nes ymlaen yn achosi oedi wrth dderbyn eich cyllid myfyriwr.

Mewngofnodwch i’ch cyfrif Cyllid Myfyrwyr Cymru a gwnewch yn siŵr bod eich cwrs/rhaglen gywir i’w gweld ar y rhestr. Dylai nodi’r brifysgol breinio e.e. PDC, PCDDS, Prifysgol Abertawe, Prifysgol Metropolitan Caerdydd.

Os yw’r wybodaeth yn anghywir neu os oes angen cymorth arnoch gyda’ch cais am gyllid myfyriwr, cysylltwch â:

Ruby Kaur:

Ar gyfer ymholiadau gwneud cais am gwrs, cofrestru, a chyllid, cysylltwch â Beth Hughes - bethan.hughes@gcs.ac.uk

I gael help ac atebion i’r cwestiynau mwyaf cyffredin cyfeiriwch at ganllawiau Cyllid Myfyrwyr Cymru sef Canllaw ‘sut i’.