BA (Anrh) Rheolaeth Busnes (Cyfrifeg/Marchnata) Ychwanegol
Arolwg
Corff llywodraethu: Prifysgol De Cymru
Mae’r cwrs hwn ar gyfer myfyrwyr sydd eisoes wedi ennill HND, Gradd Sylfaen neu gymhwyster cyfwerth. Bydd y cwrs atodol hwn yn rhoi modd i fyfyrwyr gael gradd bagloriaeth lawn.
Mae dau lwybr i ddewis o’u plith ar y cwrs BA (Anrh) Rheoli Busnes (Ychwanegol). Gallwch ddewis arbenigo mewn Cyfrifeg neu Farchnata. Mae’r llwybr Cyfrifeg yn ffordd wych o gynyddu’ch cyflogadwyedd gyda gwybodaeth cyfrifeg arbenigol yn sylfaen i sgiliau busnes hanfodol. Mae’r llwybr Marchnata yn cynnig cipolwg ar ddatblygiadau ym maes marchnata a bydd yn rhoi cyfle i chi archwilio'n feirniadol ymarfer marchnata a’i berthnasedd mewn busnes cyfoes.
Bydd y cwrs yn cael ei addysgu trwy seminarau rhyngweithiol gyda chymorth adnoddau ar-lein. Bydd astudiaethau achos bywyd go iawn, diweddar yn cael eu defnyddio i’ch helpu chi i ddysgu a sicrhau bod eich astudiaethau mor berthnasol â phosibl i’r gweithle.
Gwybodaeth allweddol
Cwblhau HND neu gymhwyster cyfwerth yn llwyddiannus h.y. Gradd Sylfaen.
Asesir y cwrs trwy aseiniad, cyflwyniad, astudiaeth achos, arholiad a phrosiectau ymchwil.
Modiwlau craidd Lefel 6 (llwybrau cyfrifeg a marchnata):
- Rheolaeth gymhwysol
- Ymchwil busnes: egwyddorion ac ymarfer
- Prosiect rheolaeth
- Statageth busnes.
Modiwlau Lefel 6 (llwybr cyfrifeg):
- Egwyddorion cyllid corfforaethol
- Egwyddorion cyfrifeg.
Modiwlau Lefel 6 (llwybr marchnata):
- Rhagoriaeth mewn gwasanaeth cwsmeriaid
- Strategaeth marchnata omnisianel.
Sut i wneud cais
Bydd angen i chi wneud cais drwy UCAS
Cod UCAS: N79A - Rheolaeth Busnes (Cyfrifeg). I wneud cais cliciwch yma
Cod UCAS: N79M - Rheolaeth Busnes (Marchnata). I wneud cais cliciwch yma.
DS – Nid oes angen i fyfyrwyr CGA sy’n astudio cwrs HND Rheoli Busnes wneud cais drwy UCAS. Bydd ceisiadau’n cael eu gwneud drwy ffurflen gais fewnol ar-lein.
Achrediad Dysgu Blaenorol
Mae'n bosibl y bydd myfyrwyr yn gallu cael cydnabyddiaeth am ddysgu blaenorol. Cysylltwch i gael cyngor os teimlwch fod hyn yn berthnasol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.
Y ffioedd dysgu yw £9,000* | Mae bwrsari Coleg gwerth £1,000 ar gael.
I gael gwybodaeth gan gynnwys benthyciadau ffioedd dysgu a grantiau ffioedd dysgu, ewch ib www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk
*Sylwch fod y ffioedd dysgu a nodir ar gyfer blwyddyn academaidd 2023-24 a gallent gynyddu ar gyfer blynyddoedd astudio yn y dyfodol. Ewch i wefan y brifysgol i gael rhagor o wybodaeth.
Mae’n bosibl y bydd costau ychwanegol cysylltiedig â’r cwrs hwn h.y.:
- Teithio i’r Coleg, neu’r lleoliad, ac yn ôl
- Llungopïo, deunydd swyddfa a chostau offer (e.e. cofau bach)
- Argraffu a rhwymo
- Gynau ar gyfer seremonïau graddio.