Skip to main content

Cymorth Gofal Iechyd Clinigol Lefel 2 - Cymhwyster

GCS Training
Lefel 2
AGORED
Llys Jiwbilî
15 mis
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Arolwg

Mae’r cymhwyster hwn yn addas ar gyfer cynorthwywyr gofal iechyd sy’n gweithio’n bennaf mewn rolau sy’n darparu cymorth i unigolion sy’n cyrchu gwasanaethau iechyd Cymru dan gyfarwyddyd ymarferydd cofrestredig proffesiynol, neu nyrs gofrestredig.

I ymgymryd â’r cymhwyster hwn, rhaid i ddysgwyr fod yn gyflogedig gan wasanaethau iechyd Cymru mewn rôl lle mae sgiliau clinigol yn rhan hanfodol o’u dyletswyddau. Cafodd y cymhwyster ei ddatblygu i lywodraethu arfer yng Nghymru yn well trwy sicrhau ansawdd allanol.

Mae’r cymhwyster yn berffaith ar gyfer cynorthwywyr gofal iechyd GIG Cymru, ac mae disgwyl i holl staff cymorth clinigol gael cyfle i gwblhau’r cymhwyster a/neu gyflawni elfennau ohono at ddibenion datblygiad proffesiynol parhaus. Gallant yna hwyluso unrhyw newidiadau mewn ymarfer dros amser.

Gwybodaeth allweddol

Rhaid i ymgeiswyr fod yn 16+ i astudio’r cymhwyster hwn a bydd angen iddynt fod yn gweithio mewn rôl lle mae gofal iechyd clinigol naill ai'n rhan o'u gwaith neu’n ymwneud yn llwyr ag ef.

Cyflwynir y cymhwyster hwn drwy gyfuniad o sesiynau a addysgir mewn dosbarthiadau a chymorth un-i-un.
Bydd gofyn i ddysgwyr greu portffolio tystiolaeth i arddangos eu gwybodaeth, eu dealltwriaeth a’u cymhwysedd wrth ymarfer. 

Bydd ystod o ddulliau asesu yn cael eu defnyddio, megis:

  • Arsylwadau uniongyrchol o ymarfer
  • Aseiniadau ysgrifenedig
  • Cwestiynau / trafodaethau llafar

Mae’r cymhwyster yn cynnwys unedau gorfodol a dewisol.

Unedau gorfodol

  • Dyletswydd Gofal
  • Iechyd a Diogelwch
  • Cyfathrebu
  • Lleihau heintiau
  • Diogelu

Unedau dewisol

  • Rheoli anymataliaeth 
  • Monitro cyflyrau iechyd
  • Hybu lles 
  • Rheoli gwastraff

  • Bydd dysgwyr sy'n cyflawni'r cymhwyster hwn yn gymwys i weithredu rolau gofal iechyd clinigol ar sgiliau Lefel 2
  • Nod y cymhwyster yw cynnig pwynt mynediad i addysg a sgiliau Lefel 3