Skip to main content

Defnyddiwr TG Lefel 3 - Dyfarniad

GCS Training
Lefel 3
C&G
Llys Jiwbilî
Naw mis
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Trosolwg

Mae’r dyfarniad Defnyddiwr TG yn rhoi modd i ddysgwyr ddatblygu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i weithio’n effeithlon gyda rhaglenni Office 365 fel Word, Excel, PowerPoint ac Outlook. Achredir y dyfarniad gan City & Guilds, gyda dysgwyr yn derbyn tystysgrif ar ôl ei gwblhau.

Mae’r cwrs ar gyfer dysgwyr sydd am ddatblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth i gyflawni tasgau uwch a darparu atebion trwy ddefnyddio offer TG.

Gwybodaeth allweddol

Bydd y dysgwyr yn cael tiwtor/aseswr penodedig a fydd yn gweithio’n agos gyda’r dysgwyr a’r cyflogwr i sicrhau bod y dyfarniad yn addas ar gyfer rolau unigol, yn ogystal â sgiliau a gwybodaeth flaenorol.

Addysgir y cwrs o bell gan ddefnyddio Microsoft Teams, gyda hyfforddiant wyneb yn wyneb ar gael os bydd angen. Bydd dyddiadau ac amseroedd yr hyfforddiant yn cael eu cytuno rhwng y dysgwr a’r cyflogwr er mwyn sicrhau cyn lleied o darfu â phosibl ar y sefydliad.

Unedau

  • Defnyddio e-bost (Outlook)
  • Meddalwedd prosesu geiriau (Word) 
  • Meddalwedd cyflwyno (PowerPoint)
  • Meddalwedd taenlenni (Excel)

I gwblhau’r cymhwyster yn llwyddiannus, bydd dysgwyr yn creu portffolio o dystiolaeth gan gynnwys dogfennau, e-byst, taenlenni a sgrinluniau o’r gwaith a wnaed.

Bydd y portffolio yn cael ei adolygu yn ystod y cyfarfodydd un-i-un rheolaidd gyda thiwtoriaid/aseswyr a’i ddefnyddio at ddibenion asesu. Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn defnyddio Aseswr Clyfar, sef offeryn rheoli asesiadau ar-lein sy’n galluogi darparwyr, dysgwyr a chyflogwyr i olrhain cynnydd dysgwyr yn effeithiol.