Skip to main content

Dylunio a Gwirio Gosodiadau Trydanol Lefel 4 - Cymhwyster

GCS Training
Lefel 4
C&G
Tycoch
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Arolwg

Mae’r cymhwyster hwn yn addas ar gyfer trydanwyr cymwys sy’n dymuno cyflawni cynnydd gyrfaol yn y sector electrdechnegol, cymhwyso eu gallu wrth ddylunio gosodiadau trydanol ac ennill cymhwyster cydnabyddedig.  

Gwybodaeth allweddol

Dylai ddysgwyr feddu ar gymhwyster archwilio a phrofi.

Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno yn y  Ganolfan Ynni ar gampws Tycoch, Coleg Gŵyr Abertawe, a bydd yn cynnwys pum sesiwn tiwtorial dros gyfnod o bum diwrnod llawn, yn ogystal â 12 sesiwn diwtorial gyda’r nos dros gyfnod o wyth mis. 

Mae’r cymhwyster yn cynnwys un uned wybodaeth (35 awr o ddysgu) dan arweiniad, sy’n cwmpasu: 

  • Gofynion statudol ac anstatudol perthnasol
  • Dyluniad gosodiadau trydanol
  • Gweithdrefnau dylunio a gwirio
  • Systemau amddiffynol eraill
  • Agweddau ar dechnoleg amgylcheddol
  • Cyfrifiadau dylunio a chymhwyso BS 7671, yn ogystal â chanllawiau cysylltiedig mewn perthynas â dylunio gosodiadau yn ddiogel ac yn effeithiol

  • Diploma Proffesiynol Uwch Lefel 4 mewn Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu (4467-04)
  • Cymwysterau Rheoli ac Arwain ILM

Bydd angen i ddysgwyr brynu tri llyfr i astudio’r cwrs:

  • IEE 18th Edition Wiring Regulations 2018 Amendment 2
  • Guidance Note 3 (diweddarwyd i BS7671:1:2018+A2:2022)
  • On-site Guide (diweddarwyd i BS7671:2018+A2:2022)

Byddai meddu ar dystysgrif Archwilio a Phrofi yn fanteisiol.

Awgrymir i chi bryni’r ddau lyfr canlynol hefyd, ond ni chaniateir i chi eu defnyddio yn yr arholiad:

  • Guidance Note  1 (diweddarwyd i BS7671:1:2018+A2:2022)
  • 18th Edition IET Wiring Regulations – Design and Verification of Electrical Installations (9fed fersiwn)