Skip to main content

Rheoli Risgiau ac Asesu Risg (NEBOSH) Lefel 3 - Cymhwyster

GCS Training
Lefel 3
NEBOSH
Llys Jiwbilî
Un diwrnod
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Trosolwg

Mae’r cwrs yn addas ar gyfer unigolion sy’n ymwneud â rheoli risgiau iechyd a diogelwch yn y gweithle, gan gynnwys unigolion sy’n cynnal asesiadau risg.  

Bydd cynnwys y cwrs yn ddefnyddiol i gyflogwyr, rheolwyr, goruchwylwyr, cynrychiolwyr undeb, hyrwyddwyr SHE yn ogystal â chynrychiolwyr iechyd a diogelwch.

Trwy gwblhau’r cymhwyster hwn, byddwch yn medru:

  • Nodi peryglon
  • Asesu risgiau mewn adeiladau risg isel a risg canolig trwy ddefnyddio offer Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch
  • Gwerthuso risgiau mewn modd cytbwys a chall
  • Nodi mesurau rheoli addas.
  • Creu amgylchedd gwaith diogel ac iach
  • Sicrhau bod gan eich sefydliad arbenigwr rheoli risg mewnol
  • Magu hyder personol o ran rheoli risg

Gwybodaeth allweddol

Bydd darpariaeth y cwrs yn cael ei gadarnhau ar ôl i chi fwcio. Efallai y bydd y cymhwyster yn cael ei gyflwyno yn Llys Jiwbilî neu Ysgol Fusnes Sgeti. 

Os oes gan ddysgwr anghenion dysgu ychwanegol, bydd angen o leiaf 6 wythnos o rybudd arnom i roi’r prosesau gofynnol ar waith. 

Os ydych yn bwcio o fewn y cyfnod hwn o chwe wythnos a bod angen cymorth ychwanegol ar ddysgwr, a fyddech cystal ag ystyried bwcio dyddiad diweddarach neu rhowch wybod i ni wrth i chi fwcio.