Skip to main content

Tai Lefel 3 - Tystysgrif (CIH)

GCS Training
Lefel 3
CIH
Llys Jiwbilî
Naw mis
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Arolwg

Bydd ein cymhwyster Tai yn ategu’ch  gwybodaeth bresennol gan roi cyfle i chi atgyfnerthu rhai o’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i gymryd rhan mewn gweithgareddau’n ymwneud â thai. Bydd hefyd yn ehangu eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth ar draws amrywiaeth eang o arferion tai rheng flaen ar lefel weithredol.

Mae’r cymhwyster yn addas i’r rhai sydd eisoes wedi cyflawni cymhwyster CIH Lefel 2, a/neu brofiad o weithio yn y sector tai. Mae hefyd yn addas i weithwyr llinell flaen mewn amrywiaeth o rolau tai a chysylltiedig â thai.

Yn bennaf mae ar gyfer y rhai sydd am gynyddu eu gwybodaeth a’u hymwybyddiaeth o’r amgylchedd tai lle maen nhw’n gweithio.

Gwybodaeth allweddol

Bydd y cymhwyster yn cael ei addysgu’n hyblyg i weddu i anghenion y dysgwr a’r cyflogwr. Rydym yn cynnig dull addysgu wyneb yn wyneb ac o bell, neu ddull dysgu cyfunol.

Bydd dysgwyr yn cael hyfforddwr penodedig a fydd yn gweithio’n agos gyda’r dysgwr a’r cyflogwr i sicrhau bod y lefel a’r unedau a ddewisir yn addas i rôl y dysgwr a blaenoriaethau’r sefydliad. Bydd dysgwyr yn mynychu gweithdai hanner diwrnod bob chwe wythnos i ennill yr wybodaeth greiddiol sydd ei hangen ar gyfer pob uned. Bydd y dyddiadau a’r sesiynau’n cael eu cytuno gyda’r dysgwr a’r cyflogwr ar ddechrau’r cymhwyster.

Bydd y dysgu yn cael ei gefnogi yn ystod y gweithdai, ond bydd eich tiwtor hefyd ar gael trwy e-bost neu dros y ffôn i gynnig cyngor a chymorth drwy gydol y cymhwyster.

Unedau

  • Y system tai
  • Sgiliau ymarfer proffesiynol
  • Meddiannaeth, deiliadaeth ac eiddo ar osod
  • Rôl y gweithiwr cymorth
  • Gwasanaethau digartrefedd ac atal digartrefedd
  • Y fframwaith cyfreithiol ar gyfer tai
  • Y fframwaith ar gyfer gwybodaeth a chyngor ar dai
  • Effaith cyflyrau tai ar iechyd 

Bydd rhaid i ddysgwyr gwblhau aseiniad ar ddiwedd pob modiwl i arddangos gwybodaeth a chymhwysedd. Bydd asesiadau yn wahanol ar gyfer pob uned, a byddan nhw’n cynnwys gweithgareddau yn y dosbarth ac ar ôl y dosbarth. 

Bydd hyn yn hyrwyddo ac yn gwella sgiliau ysgrifennu academaidd, sgiliau TGCh, cydweithrewdu a sgiliau cyflwyno personol drwy gydol y cymhwyster.