Skip to main content

Tystysgrif Genedlaethol mewn Rheoli Amgylcheddol (NEBOSH) - Cymhwyster

GCS Training
NEBOSH
Llys Jiwbilî
Chwe Diwrnod
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Trosolwg

Nod y cymhwyster hwn yw darparu sylfaen gadarn mewn rheoli amgylcheddol. Mae’r cymhwyster hwn yn addas ar gyfer rheolwyr, goruchwylwyr a gweithwyr sydd yn gyfrifol am reolaeth amgylcheddol fel rhan o’u dyletswyddau dydd-i-ddydd.

Mae’r cymhwyster hefyd yn addas ar gyfer ymarferwyr amgylcheddol sydd am wella eu profiad a symud ymlaen yn eu gyrfa trwy ennill cymhwyster ffurfiol.

EMC 1 a 2.

Gwybodaeth allweddol

Bydd gofyn i ymgeiswyr fynychu cyfweliad cyn dechrau’r cwrs i drafod y cymhwyster ac i ddarganfod a yw lefel a chynnwys y cwrs yn addas.

Does dim angen i chi feddu ar unrhyw wybodaeth flaenorol am reolaeth amgylcheddol, ond, er gwybodaeth, bydd yr asesiad yn cynnwys tasg ysgrifenedig lle bydd gofyn i chi greu adroddiad cryno a sefyll arholiad ysgrifenedig.

Mae’r cymhwyster yn cynnwys dwy brif uned, rheoli peryglon amgylcheddol, a chymhwyso ymarferol a chymorth.

Mae’r uned rheoli peryglon amgylcheddol yn cynnwys naw elfen:

  • Sylfeini rheolaeth amgylcheddol
  • Systemau Rheoli Amgylcheddol
  • Asesiad effaith amgylcheddol
  • Rheoli allyriadau i'r aer
  • Rheoli halogiad mewn ffynonellau dŵr
  • Rheoli gwastraff a defnydd tir
  • Ffynonellau ynni, defnydd o ynni ac effeithlonrwydd ynni 
  • Rheoli sŵn amgylcheddol
  • Cynllunio ar gyfer argyfyngau amgylcheddol ac ymateb iddynt

Mae darpariaeth y cwrs yn hyblyg, a gallwch gael eich rhyddhau am un diwrnod yr wythnos i astudio’r cwrs, yn ogystal ag un diwrnod adolygu ychwanegol. 

Ar ôl cwblhau pob uned o’r cwrs yn llwyddiannus, byddwch yn derbyn tystysgrif gan NEBOSH. 

Mae’n hanfodol bod ymgeiswyr yn dod ag ID ffotograffig i’r arholiad. Os na fyddant yn gwneud hyn, mae’n bosib na fyddant yn cael sefyll yr arholiad. 

Cofrestru ar gyrsiau rhan-amser – y diweddaraf

Rydym wrthi yn uwchraddio ein systemau, ac felly nid oes modd cofrestru ar gyrsiau rhan-amser ar-lein ar hyn o bryd.

Os hoffet ti gofrestru, cer i Gampws Tycoch, lle bydd ein tîm yn hapus i helpu:

  • Dydd Llun-Dydd Iau: 9am-4.30pm
  • Dydd Gwener: 9am-4pm.

Diolch am dy amynedd wrth i ni gwblhau’r gwelliannau hyn.

NEBOSH National Certificate in Environmental Management (NEC1 & NEC2) - PLA
Cod y cwrs: DL333E_P1
29/10/2026
Llys Jiwbilî
5 weeks
Thursday
9:30am - 4:30pm
TBA
NEBOSH National Certificate in Environmental Management (NEC1 & NEC2) INTENSIVE - PLA
Cod y cwrs: DL333E_P2
08/02/2027
Llys Jiwbilî
1 week
Mon-Fri
9:30am - 4:30pm
TBA
NEBOSH National Certificate in Environmental Management (NEC1 & NEC2) - PLA
Cod y cwrs: DL333E_P3
29/04/2027
Plas Sgeti
5 weeks
Thursday
9:30am - 4:30pm
TBA
NEBOSH National Certificate in Environmental Management (NEC1 & NEC2) INTENSIVE - PLA
Cod y cwrs: DL333E_P4
17/05/2027
Llys Jiwbilî
1 week
Mon-Fri
9:30am - 4:30pm
TBA