Skip to main content

Tystysgrif NVQ Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol (City & Guilds) - Cymhwyster

GCS Training
Lefel 3
C&G
Llys Jiwbilî
12 mis
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Arolwg

Mae’r cymhwyster hwn yn addas i reolwyr a goruchwylwyr ym mhob sector diwydiant sydd â chyfrifoldeb am iechyd a diogelwch ac sydd am ddatblygu eu sgiliau. Mae hefyd yn addas i’r rhai sy’n newydd i rôl iechyd a diogelwch, neu ymarferwyr iechyd a diogelwch sydd am symud ymlaen yn eu gyrfa trwy gymhwyster cydnabyddedig. 

Bydd y cymhwyster yn rhoi gwybodaeth a sgiliau iechyd a diogelwch galwedigaethol hanfodol, gan gynnwys cynnal asesiadau risg, cyflwyno gweithdrefnau, yn ogystal â hyrwyddo diwylliant cadarnhaol o iechyd a diogelwch yn y gweithle.

Mae’n bodloni gofynion academaidd ar gyfer Aelodaeth Technegydd (TechIOSH) o’r Sefydliad Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol (IOSH), ac Aelodaeth Gyswllt (AIIRSM) o’r Sefydliad Rhyngwladol Rheoli Risg a Diogelwch (IIRSM). 

Gwybodaeth allweddol

Nid oes gofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cymhwyster hwn, ond bydd cyfarfod byr yn ofynnol i drafod cynnwys y cwrs a sefydlu a yw’r lefel yn addas i’r dysgwr.

Bydd y cyfarfod byr hefyd yn trafod a all yr ymgeiswyr ddangos y cymhwysedd sydd ei angen o fewn eu rôl, gan mai perfformiad yn y swydd yw’r brif sylfaen asesu.

Er mwyn cwblhau’r cymhwyster yn llwyddiannus, bydd angen i ddysgwyr gwblhau’r holl unedau gorfodol:

  • Sicrhau cyfrifoldeb am weithredoedd i leihau risgiau iechyd a diogelwch
  • Datblygu gweithdrefnau i reoli gweithrediadau gwaith yn ddiogel
  • Monitro gweithdrefnau i reoli gweithrediadau gwaith yn ddiogel
  • Hyrwyddo diwylliant o iechyd a diogelwch yn y gweithle
  • Cynnal asesiad risg iechyd a diogelwch yn y gweithle

Yn ogystal, bydd yn ofynnol i ddysgwyr gwblhau dwy uned ddewisol o’r rhestr ganlynol:

  • Gwerthuso ac ymchwilio i ddigwyddiadau a chwynion iechyd a diogelwch yn y gweithle
  • Sicrhau bod gweithredoedd yn y gweithle yn anelu at ddiogelu’r amgylchedd
  • Adolygu gweithdrefnau iechyd a diogelwch yn y gweithle
  • Goruchwylio iechyd, diogelwch a lles dysgwyr yn y gweithle

Ar ôl cwblhau’r cymhwyster yn llwyddiannus, gall dysgwyr symud ymlaen i’r canlynol:

  • NVQ Ymarfer Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol (City & Guilds) – Lefel 5
  • Diploma Cenedlaethol mewn Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol (NEBOSH)

Mae’r cymhwyster hwn yn seiliedig ar gymhwysedd, ac yn cael ei gyflwyno trwy ddysgu seiliedig ar waith. Nid oes arholiadau, ac mae asesiadau’n cael eu cynnal trwy amrywiaeth o ddulliau megis arsylwadau, tystebau a mwy. 

Bydd cyfleoedd i ddysgwyr gynnal asesiadau risg, datblygu systemau gwaith diogel, dyfeisio neu gyflwyno hyfforddiant iechyd a diogelwch, a chynnal arolygon diogelwch neu ymchwiliadau i ddamweiniau.

Bydd yn ofynnol i ddinesyddion nad ydynt o’r DU ddarparu prawf o’u statws preswyl ac e-bostio dogfennau a ffurflen gofrestru Coleg wedi’i chwblhau/llofnodi gan y dysgwr dim hwyrach nag un wythnos cyn dechrau’r cwrs. Bydd hyn yn rhoi modd i’n hadran Ryngwladol wirio a yw dysgwyr yn gymwys i gael cyllid. Os nad yw dysgwyr yn gymwys i gael cyllid Llywodraeth Cymru, byddant yn cael opsiwn i dalu ffi’r cwrs neu dynnu yn ôl o’r cwrs.