Skip to main content

Ymarfer Tai Lefel 2 - Tystysgrif (CIH)

GCS Training
Lefel 2
CIH
Llys Jiwbilî
Chwe mis
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Arolwg

Mae’r cymhwyster hwn yn rhoi cyflwyniad cyffredinol i’r sector tai. Bydd yn rhoi gwybodaeth sylfaenol i chi o faes tai, gan gyflwyno rhai o’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i gymryd rhan mewn gweithgareddau cysylltiedig â thai. 

Mae’r cymhwyster Lefel 2 hwn yn addas i’r rhai sy’n newydd i faes tai (tai cymdeithasol neu’r sector cysylltiedig preifat), neu sy’n gweithio mewn rôl llinell flaen a hoffai wella eu hymwybyddiaeth o dai neu ennill cymhwyster cydnabyddedig.

Mae’r cymhwyster hefyd yn addas ar gyfer tenantiaid, preswylwyr neu aelodau bwrdd sydd am wella eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o dai, ynghyd â gwirfoddolwyr ym maes tai sydd am ennill cymhwyster cychwynnol.

Mae’r cymhwyster hefyd ar gael i’r rhai nad ydynt yn gweithio ym maes tai ar hyn o bryd, ond sy’n ystyried swydd rheng flaen ym maes tai fel opsiwn gyrfa.

Gwybodaeth allweddol

Gallwn addysgu’r cymhwyster yn hyblyg i weddu i anghenion y dysgwr a’r cyflogwr, a all gynnwys dull addysgu wyneb yn wyneb ac o bell, neu ddull cyfunol.

Bydd dysgwyr yn cael hyfforddwr penodedig a fydd yn gweithio’n agos gyda’r dysgwr a’r cyflogwr i sicrhau bod y lefel a’r unedau a ddewisir yn addas i rôl y dysgwr a blaenoriaethau’r sefydliad.

Bydd dysgwyr yn mynychu gweithdai hanner diwrnod bob chwe wythnos i ennill yr wybodaeth greiddiol sydd ei hangen ar gyfer pob uned. Bydd y dyddiadau a’r sesiynau’n cael eu cytuno gyda’r dysgwr a’r cyflogwr ar ddechrau’r cymhwyster. Bydd y dysgu yn cael ei gefnogi yn ystod y gweithdai, ond bydd eich tiwtor hefyd ar gael trwy e-bost neu dros y ffôn i gynnig cyngor a chymorth drwy gydol y cymhwyster.

Unedau

  • Darpariaeth tai a sefydliadau tai
  • Gwasanaeth cwsmeriaid ym maes tai
  • Datblygiad proffesiynol ym maes tai
  • Atgyweirio a chynnal a chadw asedau 

Er mwyn cwblhau’r cymhwyster yn llwyddiannus, bydd dysgwyr yn ymgymryd ag aseiniad ar ddiwedd pob modiwl i arddangos eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth. Bydd asesiadau’n wahanol ar gyfer pob uned, a byddant yn cynnwys gweithgareddau yn y dosbarth ac ar ôl y dosbarth. 

Bydd hyn yn hyrwyddo ac yn gwella sgiliau ysgrifennu academaidd, sgiliau TGCh, cydweithredu a sgiliau cyflwyno personol drwy gydol y cymhwyster.