Skip to main content

Gweithiwr Proffesiynol Telathrebu Lefel 2 - Prentisiaeth

Prentisiaeth, GCS Training
Lefel 2
Pearson
Llys Jiwbilî
18 mis
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Arolwg

Mae’r brentisiaeth hon wedi’i hariannu’n llawn ac mae ar gyfer dysgwyr sydd â rhywfaint o wybodaeth, profiad neu gymwysterau TG. Rhaid bod dysgwyr yn gyflogedig mewn rôl addas ac yn gweithio yn y sectorau technoleg ddigidol. Mae’r brentisiaeth yn fwyaf addas i sefydliadau sy’n rheoli eu TG eu hunain neu sy’n rhoi cymorth TG i gwmnïau eraill.

Gellir defnyddio’r brentisiaeth i uwchsgilio staff newydd neu bresennol. Mae rolau addas yn cynnwys technegwyr desg gymorth TG, cymorth cymwysiadau, technegwyr TGCh, gweinyddwyr prosesu data, technegwyr cymorth TG, technegwyr gwefannau neu ddylunio, gweinyddwyr cronfeydd data a datblygwyr apiau. Mae prentisiaeth Lefel 2 ar gyfer dysgwyr sydd mewn rolau cymorth llinell gyntaf, technegol, sy’n defnyddio ac yn cefnogi caledwedd, meddalwedd a rhwydweithiau.

Gwybodaeth allweddol

I fod yn gymwys ar gyfer cyllid prentisiaeth, rhaid i’r prentis fod yn gyflogedig am fwy nag 16 awr yr wythnos ac wedi’i leoli yng Nghymru.

Bydd y dysgwyr yn cael tiwtor/aseswr penodedig, a fydd yn gweithio’n agos gyda nhw a’r cyflogwr i sicrhau bod y lefel a’r unedau a ddewisir yn addas ar gyfer eu rôl unigol a blaenoriaethau’r sefydliad. Bydd y tiwtor/aseswr yn cwrdd â’r dysgwyr bob 4-6 wythnos i asesu cynnydd a gosod amcanion ar gyfer y cyfnod nesaf.

Bydd y dysgwyr yn cael gwaith prosiect seiliedig ar yr unedau maen nhw wedi’u dewis, a bydd disgwyl iddyn nhw gasglu tystiolaeth o’u rôl i ddangos y defnydd o’u sgiliau newydd. Mae’n bosibl y bydd disgwyl i’r dysgwr fynychu seminarau neu weithdai yn ogystal â dysgu seiliedig ar waith a fydd yn canolbwyntio ar yr elfen wybodaeth o’r cymhwyster, a chymorth i ddatblygu dealltwriaeth, sgiliau a phrofiad yn y maes hwn.

Unedau gorfodol

  • Datblygu’ch effeithiolrwydd a’ch proffesiynoldeb eich hun 
  • Iechyd a diogelwch ym maes TG

Unedau dewisol 

Gellir dewis ac addysgu’r unedau dewisol canlynol:

  • Gofal cwsmeriaid ym maes TG
  • Meddalwedd cronfeydd data
  • Cyflwyniad i ddatblygu systemau TG
  • Diogelwch systemau TG
  • Modelu data
  • Datblygu gwefannau
  • Canfod namau technegol 

Gweithiwr Proffesiynol Telathrebu Lefel 3 - Prentisiaeth

Gweithiwr Proffesiynol Telathrebu Lefel 4 - Prentisiaeth

I gwblhau’r cymwysterau yn llwyddiannus, bydd dysgwyr yn ymgymryd â phrosiectau a thasgau seiliedig ar waith i fodloni meini prawf y cymhwyster, sy’n berthnasol i’w rôl unigol a’u hamgylchedd dysgu. Byddan nhw’n caffael yr wybodaeth, yr offer a’r technegau sy’n gysylltiedig â phob uned a byddan nhw wedyn yn eu rhoi ar waith yn eu hamgylchedd gwaith presennol.

Bydd y gwaith a roddwyd a’r dystiolaeth a gasglwyd yn cael eu hadolygu yn ystod y cyfarfodydd grŵp a’r cyfarfodydd un-i-un rheolaidd gyda thiwtoriaid/aseswyr a’u defnyddio at ddibenion asesu. Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn defnyddio Aseswr Clyfar, sef offeryn rheoli prentisiaethau ar-lein sy’n rhoi modd i’r darparwr, y dysgwr a’r cyflogwr olrhain cynnydd dysgwyr yn effeithiol.