Skip to main content

Gweithrediadau Canolfan Gyswllt Lefel 2 - Prentisiaeth

Prentisiaeth, GCS Training
Lefel 2
C&G
Llys Jiwbilî
12 mis
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Trosolwg

Mae Gweithrediadau Canolfan Gyswllt yn brentisiaeth wedi’i hariannu’n llawn i’r rhai y mae eu rôl yn ymwneud â gweithrediadau canolfan gyswllt a gwasanaeth cwsmeriaid. Mae dysgwyr yn debygol o fod yn defnyddio systemau cyfathrebu pwrpasol, trin manylion cyswllt cwsmeriaid trwy gyfryngau cyfathrebu a gwneud galwadau diwahoddiad.

Gellir defnyddio’r brentisiaeth i uwchsgilio staff newydd neu bresennol. Mae rolau addas yn cynnwys asiantiaid canolfan gyswllt, gweithwyr desg gymorth, cynghorwyr gwerthu, cynghorwyr bancio ffôn, arweinwyr tîm gwerthu, goruchwylwyr, dadansoddwyr cymorth a rheolwyr canolfan gyswllt. 

Gwybodaeth allweddol

I fod yn gymwys ar gyfer cyllid prentisiaeth, rhaid i’r prentis fod yn gyflogedig am fwy nag 16 awr yr wythnos ac wedi’i leoli yng Nghymru.

Gall y brentisiaeth ddechrau ar unrhyw adeg o’r flwyddyn. Mae’n cael ei haddysgu i grwpiau a/neu unigolion gan ddefnyddio dull dysgu cyfunol trwy Teams/Skype/Zoom fel y bo’n briodol. Fel arfer bydd y dysgwyr yn cael sesiynau a chyfarfodydd gyda’r tiwtor/aseswr bob 3 i 4 wythnos.

Unedau gorfodol

  • Gwella effeithiolrwydd personol yn y gwaith mewn canolfan gyswllt
  • Cydymffurfio â gweithdrefnau iechyd a diogelwch mewn canolfan gyswllt

Unedau dewisol

Bydd eich tiwtor/aseswr yn gweithio gyda chi i nodi pa unedau dewisol sy’n addas i’ch rôl a’ch cyfrifoldebau, ond rydym yn argymell y canlynol:

  • Defnyddio systemau a thechnoleg wrth gysylltu â chwsmeriaid mewn canolfan gyswllt
  • Darparu gwasanaeth cwsmeriaid trwy ganolfan cyswllt
  • Rhoi argraff bositif i gwsmeriaid ohonoch chi’ch hun a’ch sefydliad
  • Hyrwyddo cynhyrchion neu wasanaethau ychwanegol i gwsmeriaid
  • Cyfleu gwybodaeth i gwsmeriaid mewn cyd-destunau gwahanol ond cyfarwydd trwy ganolfan gyswllt

Gweithrediadau Canolfan Gyswllt Lefel 3 - Prentisiaeth

Fel rhan o’r brentisiaeth, bydd unedau gorfodol a dewisol yn cael eu hasesu fel e-bortffolio seiliedig ar dystiolaeth, a fydd yn cynnwys gweithgareddau seiliedig ar wybodaeth a chymhwysedd. Gall y rhain gynnwys astudiaethau achos seiliedig ar waith, datganiadau gan dystion, arsylwadau, datganiadau personol a holi ynghylch gwybodaeth.