Skip to main content

Warysau Lefel 2 - Prentisiaeth

Prentisiaeth, GCS Training
Lefel 2
C&G
Llys Jiwbilî
18 mis
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Trosolwg

Mae Warysau yn brentisiaeth wedi’i hariannu’n llawn sy’n rhoi cyfle cyffrous i ddysgwyr ennill cymhwyster cydnabyddedig er mwyn gweithio yn y sector warysau a storio. Achredir y rhaglenni gan City and Guilds.

Darperir y prentisiaethau fel cymwysterau annibynnol y gellir eu defnyddio i uwchsgilio staff newydd neu bresennol. Mae prentisiaeth Lefel 2 ar gyfer y rhai sydd eisoes yn gweithio mewn rôl warysau ac yn gobeithio bod yn hollol gymwysedig yn eu maes. 
 

Gwybodaeth allweddol

I fod yn gymwys ar gyfer cyllid prentisiaeth, rhaid i’r prentis fod yn gyflogedig am fwy nag 16 awr yr wythnos ac wedi’i leoli yng Nghymru.

Bydd y dysgwyr yn cael tiwtor/aseswr penodedig a fydd yn gweithio’n agos gyda’r dysgwyr a’r cyflogwr i sicrhau bod yr unedau a ddewisir yn addas i’w rolau unigol a blaenoriaethau’r sefydliad. Bydd y tiwtor/aseswr yn ymweld â’r dysgwr bob 4-6 wythnos i gynnal arsylwadau ar gyfer y meini prawf perfformio, a thrafod gofynion ar gyfer cwblhau datganiadau ysgrifenedig gan gwmpasu’r meini prawf gwybodaeth.

Bydd y meini prawf gwybodaeth yn ei gwneud yn ofynnol i ddysgwyr baratoi datganiadau yn eu hamser eu hunain.

Unedau gorfodol

  • Datblygu cysylltiadau gwaith effeithiol 
  • Iechyd a diogelwch yn y gweithle

Unedau dewisol

  • Dewis nwyddau mewn amgylchedd logisteg
  • Cadw mannau gwaith yn lân
  • Symud a thrin nwyddau
  • Derbyn nwyddau
  • Prosesu archebion ar gyfer cwsmeriaid
  • Storio nwyddau
  • Cydosod archebion i’w dosbarthu mewn amgylcheddau logisteg
  • Cadw stoc ar lefelau gofynnol

Warysau Lefel 3 - Prentisiaeth

I gwblhau’r brentisiaeth yn llwyddiannus, bydd dysgwyr yn ymgymryd â gwaith sy’n berthnasol i’w rôl unigol a’u hamgylchedd dysgu. Caiff cymhwysedd ei asesu trwy arsylwi a chasglu tystiolaeth o’r cynnyrch. Caiff asesiadau a datganiadau eu hadolygu yn ystod y cyfarfodydd un-i-un rheolaidd gyda’r tiwtor/aseswr yn y gweithle. Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn defnyddio Aseswr Clyfar, sef offeryn rheoli prentisiaethau ar-lein sy’n rhoi modd i’r darparwr, y dysgwr a’r cyflogwr olrhain cynnydd dysgwyr yn effeithiol.