Skip to main content

Y Cyfryngau Cymdeithasol Lefel 3 - Prentisiaeth

Prentisiaeth, GCS Training
Lefel 3
C&G
Llys Jiwbilî
21 mis
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Arolwg

Bwriedir y prentisiaeth ar gyfer dysgwyr sydd yn gyflogedig mewn rôl marchnata addas, sy’n defnyddio ac yn cefnogi brandio ac hyrwyddo y cwmni ar-lein. Mae’r brentisiaeth yn fwyaf addas i sefydliadau neu adrannau TG sy’n rheoli eu gwaith marchnata eu hunain.

Mae prentisiaeth Y Cyfryngau Cymdeithasol Lefel 3 ar gyfer dysgwyr sydd mewn rolau y cyfryngau cymdeithasol a marchnata digidol. Mae rolau addas yn cynnwys rolau iau ac uwch yn y cyfryngau cymdeithasol a marchnata digidol, fel cynorthwywyr y cyfryngau cymdeithasol, ymgynghorwyr y cyfryngau cymdeithasol, dadansoddwyr y cyfryngau cymdeithasol, swyddogion ymgysylltu â’r gymuned, cynorthwywyr cyfrifon digidol, cynorthwyydd marchnata digidol, swyddog cyfathrebu digidol, dylunwyr gwe, rheolwyr marchnata symudol a rheolwyr marchnata digidol.

Gellir defnyddio’r prentisiaethau i uwchsgilio staff newydd neu bresennol.

Gwybodaeth allweddol

I fod yn gymwys ar gyfer cyllid prentisiaeth, rhaid i’r prentis fod yn gyflogedig am fwy nag 16 awr yr wythnos ac wedi’i leoli yng Nghymru.

Bydd y dysgwyr yn cael tiwtor/aseswr penodedig, a fydd yn gweithio’n agos gyda nhw a’r cyflogwr i sicrhau bod y lefel a’r unedau a ddewisir yn addas ar gyfer eu rôl unigol a blaenoriaethau’r sefydliad. Bydd y tiwtor/aseswr yn cwrdd â’r dysgwyr bob 4-6 wythnos i asesu cynnydd a gosod amcanion ar gyfer y cyfnod nesaf.

Bydd y dysgwyr yn cael gwaith prosiect seiliedig ar yr unedau maen nhw wedi’u dewis, a bydd disgwyl iddyn nhw gasglu tystiolaeth o’u rôl i ddangos y defnydd o’u sgiliau newydd. Mae’n bosibl y bydd disgwyl i’r dysgwr fynychu seminarau neu weithdai yn ogystal â dysgu seiliedig ar waith a fydd yn canolbwyntio ar yr elfen wybodaeth o’r cymhwyster, a chymorth i ddatblygu dealltwriaeth, sgiliau a phrofiad yn y maes hwn.

Unedau gorfodol 

  • Egwyddorion y cyfryngau cymdeithasol o fewn busnes
  • Defnyddio technegau cydweithredol
  • Rheoli rhwydweithio cymdeithasol ar gyfer busnes
  • Egwyddorion geiriau allweddol ac optimeiddio 
  • System rheoli cynnwys a chreu gwefan

Unedau dewisol

  • Datblygu brand
  • Marchnata ar e-bost 
  • Sylfeini gwe
  • Marchnata ar beiriannau chwilio
  • Marchnata cynnwys
  • Marchnata ar ddyfeisiau symudol
  • Egwyddorion hysbysebu a hyrwyddo ar y cyfryngau cymdeithasol
  • Cynhyrchu copi ar gyfer cyfathrebu ar y cyfryngau digidol

Marchnata Digidol - Lefel 4

I gwblhau’r cymwysterau yn llwyddiannus, bydd dysgwyr yn ymgymryd â thasgau seiliedig ar waith i fodloni meini prawf y cymhwyster, sy’n berthnasol i’w rôl unigol a’u hamgylchedd dysgu. Byddan nhw’n caffael yr wybodaeth, yr offer a’r technegau sy’n gysylltiedig â phob uned a byddan nhw wedyn yn eu rhoi ar waith yn eu hamgylchedd gwaith presennol.

Bydd y gwaith a roddwyd a’r dystiolaeth a gasglwyd yn cael eu hadolygu yn ystod y cyfarfodydd grŵp a’r cyfarfodydd un-i-un rheolaidd gyda thiwtoriaid/aseswyr a’u defnyddio at ddibenion asesu. Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn defnyddio Aseswr Clyfar, sef offeryn rheoli prentisiaethau ar-lein sy’n rhoi modd i’r darparwr, y dysgwr a’r cyflogwr olrhain cynnydd dysgwyr yn effeithiol.