Skip to main content

Clytwaith ag Appliqué

Rhan-amser
Llwyn y Bryn
10 wythnos
Ffôn: 01792 284021 (Llwyn y Bryn)

Trosolwg

Mae clytwaith yn grefft greadigol lle rydych chi’n cyfuno gwahanol ddarnau o ffabrig i ffurfio patrymau hardd a phrosiectau unigryw.

Mae’r cwrs hwn yn wych i ddechreuwyr sydd am ddechrau arni gyda chlytwaith. Byddwch chi’n dysgu amrywiaeth o dechnegau peiriant, torri â llaw a chydosod. Yn ystod y 10 wythnos byddwch chi’n dysgu sut i ddefnyddio templedi i dorri ffabrig, sut i ychwanegu lwfans sêm, sut i ddylunio ac adeiladu paneli clytwaith.

Bydd y crefftwr mwy profiadol yn dysgu sut i greu brechdan cwiltio, sut i ddefnyddio troed cerdded a throed rhydd i gymhwyso llinellau cwiltio i’ch dyluniad clytwaith.

Cewch gyfle i ddylunio a chreu eich dyluniad clytwaith eich hun fel rhan o’r cwrs hwn.

Gwybodaeth allweddol

Does dim gofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn.

Cynhelir dosbarthiadau yn ein stiwdio gwnïo a dylunio fach, gyfeillgar ar Gampws Llwyn y Bryn, Uplands. Gyda mynediad at amrywiaeth o offer gwnïo, byddwch yn dysgu mewn amgylchedd hamddenol ond ysbrydoledig.

Cofrestru ar gyrsiau rhan-amser – y diweddaraf

Rydym wrthi yn uwchraddio ein systemau, ac felly nid oes modd cofrestru ar gyrsiau rhan-amser ar-lein ar hyn o bryd.

Os hoffet ti gofrestru, cer i Gampws Tycoch, lle bydd ein tîm yn hapus i helpu.

Diolch am dy amynedd wrth i ni gwblhau’r gwelliannau hyn.

Embroidery - Patchwork with Applique (Jan Start)
Cod y cwrs: VB093_P03
05/01/2027
Llwyn y Bryn
10 weeks
Tuesday
5:30 - 8:30pm
£70.00