Skip to main content

Cyflwyniad i Dorri Leino

Rhan-amser
Lefel Mynediad 2
AGORED
Llwyn y Bryn
Tri diwrnod
Ffôn: 01792 284021 (Llwyn y Bryn)

Trosolwg

Yn y gweithdy Cyflwyniad i Dorri Leino hwn, byddwch yn dysgu hanfodion gwneud printiau cerfwedd, cerfio eich delwedd eich hun i floc linoliwm a’i phrintio ar bapur.

Mae’n dechneg wych i ddysgwyr oherwydd mae’n defnyddio offer syml i gynhyrchu canlyniadau graffig amlwg ac yn rhoi modd i bobl greu printiau amryfal o un bloc wedi’i gerfio.

Gwybodaeth allweddol

Nid oes angen profiad blaenorol, dim ond diddordeb mewn meysydd pwnc cysylltiedig.

Addysgir y cwrs hwn yn y stiwdios celf a dylunio ar Gampws Llwyn y Bryn yn Uplands. Dydd Mercher 8 Gorffennaf i ddydd Gwener 10 Gorffennaf, 10am-4pm.

Asesir y gwaith yn erbyn amrywiaeth o feini prawf. Yn ystod y cwrs, bydd angen i chi gwblhau llyfryn o ganlyniadau.

Gallai dilyniant o unrhyw gwrs rhan-amser gynnig llwybr i gyrsiau amser llawn mewn celf a dylunio. I ddysgwyr sy’n oedolion sy’n ystyried gyrfa greadigol, gallai’r cwrs Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio ddarparu llwybr dilyniant ar gyfer hyn.

Sylwch: Mae’r cwrs hwn yn cynnwys ffi stiwdio £70, sy’n daladwy yn eich sesiwn gyntaf.

Off