Diwrnod Darganfod Digidol – Deallusrwydd Artiffisial ac Offer Digidol Am Ddim ar gyfer Addysg
Ffôn 01792 284400 E-bost: training@gcs.ac.uk
Trosolwg
Mae'r Diwrnod Darganfod Digidol yn cynnig cyflwyniad ymarferol i offer digidol rhad ac am ddim sy'n hybu addysgu a dysgu ar draws pob lleoliad addysg, gan gynnwys Cynradd, Uwchradd, Addysg Bellach (AB), Addysg Uwch (AU) a Dysgu Seiliedig ar Waith.
Bydd dysgwyr yn archwilio offer y gellir eu defnyddio ar yn yr ystafell ddosbarth neu'r gweithle, er mwyn helpu i symleiddio tasgau, gwella ymgysylltiad a gwneud addysgu'n fwy effeithiol yn rhad ac am ddim. Mae'r sesiwn yn annog i ddysgwyr rannu syniadau a phrofiadau, myfyrio ar yr hyn sydd wedi gweithio'n dda a chanfod atebion ymarferol i heriau mewn ymarfer digidol.
Erbyn y diwedd y sesiwn bydd dysgwyr wedi dysgu strategaethau a dulliau ymarferol newydd fel y gallant eu defnyddio'n hyderus yn eu lleoliadau eu hunain.
Gwybodaeth allweddol
Gwybodaeth am ddefnyddio offer digidol.
Cynigir y rhaglen drwy weithdy rhyngweithiol ymarferol, a bydd sesiwn y bore yn cael ei chynnig dan arweiniad tiwtor. Bydd dysgywr yn cael cyfle i ddysgu am amrywiaeth o offer digidol am ddim a byddant yn derbyn cyflwyniadau ar sut y gellir eu defnyddio ym meysydd addysgu a dysgu. Yn ogystal â hyn, byddant yn cael cyfle i arbrofi gyda'r offer eu hunain, gan archwilio nodweddion a phrofi cymwysiadau ymarferol.
Yn y prynhawn, bydd y sesiwn yn fwy cydweithredol, lle bydd dysgwyr yn cael cyfle i rannu profiadau, trafod yr hyn sydd wedi gweithio'n dda, datrys problemau ac archwilio atebion ymarferol gyda'i gilydd.
Mae'r dull hwn yn sicrhau bod dysgwyr yn ennill sgiliau ymarferol ac yn magu digon o hyder i ymgorffori’r offer hyn yn eu gwaith eu hunain.
Cyrsiau eraill a gynigir gan Golg Gŵyr Abertawe suy’n debyg i’r Diwrnod Darganfod Digidol:
- Deallusrwydd Artiffisial a Chynhyrchedd yn y Gweithle
- Hygyrchedd Digidol
- Cydweithio a Chyfathrebu Digidol
- Cynnwys Creadigol Digidol.
Cyrsiau achrededig yng Ngholeg Gŵyr Abertawe:
- Cwrs Llythrennedd Digidol byr - Lefel 2 (Dau ddiwrnod)
- Cwrs Llythrennedd Digidol byr - Lefel 3 (Pum niwrnod)
- Sgiliau Digidol Lefel 2 ar gyfer Busnes
- Sgiliau Digidol Lefel 3 ar gyfer Busnes.
Tystysgrif presenoldeb.
Dewch â'ch gliniadur eich hun os yn bosibl er mwyn cofrestru ar gyfer offer digidol ar eich dyfais eich hun. Os nad oes gennych liniadur, gallwn ni ddarparu un.