Ffrangeg Rhan-amser
Trosolwg
Trwy gydol y flwyddyn, rydyn ni’n cynnig ystod o ddosbarthiadau wedi’u teilwra i’ch lefel hyfrededd, gan roi cyfle i chi ymgymryd ag un rhaglen yn unig neu symud ymlaen yn raddol drwy’r camau. Os nad yw’r cwrs rydych chi’n dymuno ymgymryd ag ef ar gael, gwiriwch y rhestr nes ymlaen.
Ffrangeg ar gyfer Gwyliau
Mae’r dosbarthiadau hyn yn addas ar gyfer unigolion sy’n bwriadu ymweld â Ffrainc neu wledydd Ffrangeg eu hiaith. Nid yw’r dosbarthiadau yma ar gyfer pobl sy’n meddu ar sgiliau Ffrangeg da, maent ar gyfer unigolion sy’n newydd i’r iaith. Mae’r cwrs yn ymdrin â thestunau hanfodol megis archebu bwyd a diod, bwcio llety ac ymweld â swyddfeydd twristiaeth. Trwy gwblhau gwersi rhyngweithiol ac ymarferion ymarferol, bydd myfyrwyr yn dysgu geirfa ac ymadroddion allweddol fel y gallant gynnal sgyrsiau sylfaenol yn Ffrangeg.
Cyfnod 1
Testunau’r lefel hon: cyflwyno eich hun (enw, cenedlaetholdeb, niferoedd, swydd a gwybodaeth gyffredinol am y teulu), archebu bwyd a diod mewn caffi a bwcio ystafell mewn gwesty. Mae’r dosbarthiadau yn addas ar gyfer dechreuwyr nad oes ganddyn nhw unrhyw ddealltwriaeth o’r iaith.
Cyfnod 2
Gan fod yn gyfforddus gydag adrodd cyfarchion sylfaenol ynghyd â chymryd rhan mewn cyflwyniadau a thestunau Cam 1, bydd myfyrwyr Cam 2 yn cynyddu eu hyder wrth ymgymryd â sefyllfaoedd gwyliau ac yn ennill gwell dealltwriaeth ddiwylliannol. Bydd y gwersi yn cynnwys ystod o weithgareddau gan gynnwys darllen, gwrando a siarad.
Cyfnod 3
Yng nghyfnod 3, bydd myfyrwyr yn ymarfer siarad yn yr amser presennol (a astudiwyd yng nghyfnodau 1 a 2) a byddan nhw’n cael eu cyflwyno i’r amser gorffennol sylfaenol. Mae testunau ar y lefel hon yn cynnwys disgrifio eu hunain (gan gynnwys dillad), delio â sefyllfaoedd mewn bwyty neu westy, a thrafod y cartref, tywydd a gwyliau yn y dyfodol.
Cyfnod 4
Anelir y dosbarthiadau cyfnod 4 at fyfyrwyr sydd â gwybodaeth dda o Ffrangeg. Ar y cwrs hwn, bydd myfyrwyr yn cael eu cyflwyno i’r amser amodol. Mae’r testunau sy’n cael eu hastudio ar y lefel hon yn cynnwys trafod y tŷ a phrosiectau DIY, hobïau, rhannu o’r corff, ac ymweld â’r meddyg a’r fferyllfa.
Cyfnod 5
Anelir y dosbarthiadau cyfnod 5 at fyfyrwyr sydd â gwybodaeth dda o Ffrangeg. Ar y cwrs hwn, bydd myfyrwyr yn ymarfer defnyddio amrywiaeth o amserau mewn sefyllfaoedd gwahanol. Mae’r testunau sy’n cael eu hastudio yn cynnwys trafod tywydd mawr, argyfyngau, ymweld â’r orsaf betrol, a ffilmiau neu lyfrau.
Gwybodaeth allweddol
Mae dwy sesiwn awr yn cael eu cynnal bob wythnos. Mae pob gwers yn cynnwys cymysgedd o weithgareddau darllen, gwrando a siarad. Weithiau byddwch chi'n gweithio ar eich pen eich hun, mewn parau neu mewn grwpiau.
Ni cheir arholiad ond cewch eich asesu’n anffurfiol drwy gydol y cwrs.