Gweithdy Gwneud Torch Nadolig
Trosolwg
Ymunwch â ni am sesiwn flodeuwriaeth Nadoligaidd, ymarferol lle byddwch chi’n dysgu sut i greu eich torch Nadolig eich hun o’r dechrau! Yn y grŵp bach, cyfeillgar hwn o ddim ond 8 dysgwr, byddwch yn cael eich tywys drwy’r broses o greu sylfaen eich torch, ychwanegu dail tymhorol a chynnwys elfennau addurniadol i greu addurn hardd, wedi’i bersonoli ar gyfer eich cartref.
Rhowch eich stamp eich hun arni! Mae croeso i chi ddod ag unrhyw ategolion neu addurniadau ychwanegol yr hoffech eu cynnwys, fel rhubanau, peli coed Nadolig, moch coed, blodau sych, aeron neu gofroddion arbennig. Byddaf yn dangos i chi sut i wifrio’r rhain yn ddiogel i’ch torch fel y gallwch gyflawni eich dyluniad unigryw eich hun.
P’un a ydych chi’n ddechreuwr pur neu’n mwynhau bod yn greadigol, mae’r sesiwn hon yn gyfle gwych i ddysgu sgiliau blodeuwriaeth newydd, cofleidio hwyl yr ŵyl a mynd â thorch Nadolig wedi’i wneud â llaw adref gyda chi!
Mae croeso i bobl o bob gallu. Dewch â’ch creadigrwydd a’ch ysbryd Nadoligaidd gyda chi!
Cynhelir y gweithdy hwn yn yr Hwb Gwyrdd, Campws Tycoch.
Gwybodaeth allweddol
Dim gofynion mynediad.
Addysgir y cwrs ymarferol hwn wyneb yn wyneb.