Skip to main content

Hanfodion Diogelwch, Cydymffurfiaeth a Hunaniaeth Ardystiedig Microsoft SC900

Rhan-amser, GCS Training
Microsoft Vendor Certification
TBC
Dau ddiwrnod

Ffôn: 01792 284400   E-bost: training@gcs.ac.uk

Trosolwg

Mae'r cymhwyster hwn yn darparu gwybodaeth sylfaenol ar ddiogelwch, cydymffurfiaeth, cysyniadau hunaniaeth ac atebion Microsoft sy’n ymwneud â’r cwmwl.

Bydd dysgwyr yn cael derbyn cymorth ar ôl cwblhau’r cwrs i ymgymryd ag arholiad SC900, er mwyn ennill statws achrededig. 

Gwybodaeth allweddol

Bydd dysgwyr yn gyfarwydd â Microsoft Azure a Microsoft 365 a bydd ganddynt ddealltwriaeth o sut y gall diogelwch, cydymffurfiaeth a hunaniaeth Microsoft ddarparu datrysiadau a chynnig atebion cyfannol.

Cyn dechrau’r cwrs, bydd angen i ddysgwyr feddu ar: 

  • Ddealltwriaeth gyffredinol o rwydweithio a chysyniadau cyfrifiadura cwmwl
  • Gwybodaeth TG gyffredinol neu brofiad cyffredinol o weithio mewn amgylchedd TG
  • Dealltwriaeth gyffredinol o Microsoft Azure a Microsoft 365.

Llwybr dysgu 1: Disgrifio cysyniadau diogelwch, cydymffurfio a hunaniaeth

  • Disgrifio cysyniadau diogelwch a chydymffurfiaeth
  • Disgrifio cysyniadau hunaniaeth.

Llwybr dysgu 2: Disgrifio galluoedd Microsoft Entra

  • Disgrifio swyddogaethau a mathau gwahanol o hunaniaeth Microsoft Entra ID
  • Disgrifio galluoedd dilysu Microsoft Entra ID
  • Disgrifio galluoedd rheoli mynediad Microsoft Entra ID
  • Disgrifio galluoedd diogelu hunaniaeth a llywodraethu Microsoft Entra.

Llwybr dysgu 3: Disgrifio galluoedd datrysiadau diogelwch Microsoft

  • Disgrifio gwasanaethau diogelwch seilwaith craidd Azure
  • Disgrifio galluoedd rheoli diogelwch Azure
  • Disgrifio galluoedd diogelwch Microsoft Sentinel
  • Disgrifio galluoedd diogelwch Microsoft Sentinel.

Llwybr dysgu 4: Disgrifio galluoedd datrysiadau cydymffurfio Microsoft

  • Disgrifio porth Microsoft Service Trust a galluoedd preifatrwydd
  • Disgrifio galluoedd rheoli cydymffurfio Microsoft Purview
  • Disgrifio diogelwch gwybodaeth, rheoli cylch bywyd data a galluoedd llywodraethu data Microsoft Purview
  • Disgrifio galluoedd risg mewnol Microsoft Purview
  • Disgrifio galluoedd eDiscover ac Archwilio Microsoft Purview.

Llwybrau Dysgu Ardystiedig Microsoft yn ymwneud â Gweinyddu Azure, Diogelwch a Gwasanaethau Cwmwl.

Bydd y cymhwyster yn cael ei gyflwyno gan bartneriaid Coleg Gŵyr Abertawe, Stable, sy’n arweinwyr mewn Addysg Ardystiedig Microsoft.

Cofrestru ar gyrsiau rhan-amser – y diweddaraf

Rydym wrthi yn uwchraddio ein systemau, ac felly nid oes modd cofrestru ar gyrsiau rhan-amser ar-lein ar hyn o bryd.

Os hoffet ti gofrestru, cer i Gampws Tycoch, lle bydd ein tîm yn hapus i helpu:

  • Dydd Llun-Dydd Iau: 9am-4.30pm
  • Dydd Gwener: 9am-4pm.

Diolch am dy amynedd wrth i ni gwblhau’r gwelliannau hyn.

Off