Skip to main content

Hanfodion Microsoft Azure (AZ900) - Cymhwyster

Rhan-amser, GCS Training
Microsoft Vendor Certification
Llys Jiwbilî
Dau ddiwrnod
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Trosolwg

Bydd y cymhwyster hwn yn rhoi gwybodaeth sylfaenol i ddysgwyr o gysyniadau cwmwl, gwasanaethau Azure craidd, yn ogystal â nodweddion ac arfau rheoli a llywodraethu Azure.

Ar ôl cwblhau, bydd dysgwyr yn gallu:

  • Disgrifio cysyniadau cyfrifiadura cwmwl
  • Disgrifio pensaernïaeth Azure a gwasanaethau cysylltiedig
  • Disgrifio dulliau rheoli a llywodraethu Azure

Bydd dysgwyr hefyd wedi defnyddio Labordai Dysgu Microsoft i gael profiad ymarferol o redeg gwasanaethau Azure yn y cwmwl, a byddan nhw’n cael cymorth wedyn i sefyll arholiad AZ900 Microsoft, a chyflawni statws ardystiedig AZ900. 

Gwybodaeth allweddol

Byddai dealltwriaeth o gyfrifiadura cwmwl yn ddefnyddiol, ond nid yw’n angenrheidiol.  

Mae’r cymhwyster yn cynnwys nifer o lwybrau dysgu.

Llwybr dysgu 1: Disgrifio cysyniadau cwmwl

  • Disgrifio cyfrifiadura cwmwl
  • Disgrifio buddion defnyddio gwasanaethau cwmwl
  • Disgrifio mathau o wasanaeth cwmwl

Llwybr dysgu 2: Disgrifio pensaernïaeth a gwasanaethau Azure 

  • Disgrifio elfennau pensaernïol craidd Azure
  • Disgrifio gwasanaethau cyfrifiadura a rhwydweithio Azure
  • Disgrifio gwasanaethau storio Azure
  • Disgrifio hunaniaeth, mynediad a diogelwch Azure

Llwybr dysgu 3: Disgrifio rheolaeth a llywodraethiant Azure 

  • Disgrifio rheoli costau yn Azure
  • Disgrifio nodweddion ac arfau yn Azure ar gyfer llywodraethu a chydymffurfio
  • Disgrifio nodweddion ac arfau ar gyfer rheoli a defnyddio adnoddau Azure
  • Disgrifio arfau monitro yn Azure

Bydd yn cael ei addysgu yn Ysgol Fusnes Plas Sgeti.

Llwybrau Dysgu Ardystiedig Microsoft sy’n gysylltiedig â Gweinyddu Azure a Gwasanaethau Cwmwl. 

Bydd y cymhwyster yn cael ei addysgu gan bartneriaid Coleg Gŵyr Abertawe, Stable, sydd yn arweinwyr ym maes Addysg Ardystiedig Microsoft.

Azure Fundamentals (AZ900)
Cod y cwrs: ZA1895 DLS
04/06/2024
Plas Sgeti
Two days
Tue-Wed
9am – 5pm
£0
Amhriodol