Skip to main content

Peirianneg Sifil - Tystysgrif Genedlaethol Uwch

Rhan-amser, Prentisiaeth
Lefel 4
HNC
Tycoch
Dwy flynedd

Ffôn: 01792 284098 E-bost: he@gcs.ac.uk

Trosolwg

Corff dyfarnu: Pearson

Pearson BTEC Logo

Ydych chi'n gweithio ym maes adeiladu, seilwaith neu wasanaethau adeiladu ac yn barod i symud ymlaen i rôl adeiladu neu ddylunio safle technegol? Neu ydych chi'n ystyried newid gyrfa trwy sicrhau rôm o fewn y diwydiant Peirianneg Sifil ac yn chwilio am gymhwyster sy'n cyd-fynd â'ch bywyd a'ch gwaith presennol?

Trwy astudio’r Dystysgrif Genedlaethol Uwch Pearson ymarferol, rhan-amser (un diwrnod yr wythnos) hon mewn Peirianneg Sifil, byddwch yn sicrhau sylfaen gadarn mewn mesur, arolygu, gosod egwyddorion strwythurol, mathemateg, technolegau adeiladu digidol a dulliau peirianneg sifil, gan ennill dealltwriaeth o iechyd, diogelwch a'r amgylchedd adeiladu ehangach.

Mae'r Dystysgrif Genedlaethol Uwch (HNC) yn gyfatebol i flwyddyn gyntaf gradd BEng mewn Peirianneg Sifil. Mae'n rhoi mynediad i chi i ystod o rolau adeiladu a dylunio ar y safle a rolau swyddfa gan gynnwys gyrfaoedd fel Rheolwr Safle a Rheolwr Prosiectau Peirianneg Sifil. Gallwch hefyd barhau i astudio er mwyn sicrhau Diploma Cenedlaethol Uwch (HND) neu radd BEng neu MEng llawn.

Byddwch yn cael eich addysgu mewn grwpiau bach, rhyngweithiol gan arbenigwyr a fydd yn defnyddio dulliau addysgu a fydd yn cynnwys astudiaethau achos yn y byd go iawn. Byddwn ni yn gweithio gyda chi fel unigolyn i sicrhau eich bod yn derbyn cymorth sgiliau penodol, boed hynny'n cynyddu hyder mathemategol, sgiliau cyflwyno neu sgiliau ysgrifennu ffurfiol. Mae cynnwys y rhaglen yn cael ei ddewis gan Panel Diwydiannol yr Amgylchedd Adeiledig, gyda chynrychiolwyr yn cynnwys Andrew Scott, Tai Tarian a chyflogwyr lleol a chenedlaethol eraill. Rydym yn gwneud hyn er mwyn sicchrau eich bod yn derbyn dulliau dysgu cyfoes sy'n cael eu gwerthfawrogi gan gyflogwyr.

Pa Dystysgrif Genedlaethol Uwch (TGU) ddylwn i ei hastudio?

Mae dau lwybr ar gael ar gyfer ein Tystysgrif Genedlaethol Uwch mewn Amgylchedd Adeiledig.

Dewiswch yr un sy'n gweithio i chi:

  1. Rheolaeth Adeiladu - Tystysgrif Genedlaethol Uwch – Os ydych chi eisiau rhedeg prosiectau, bydd y cwrs yma yn dysgu sgiliau cynllunio i chi a byddwch yn darganfod sur i ddod â gwahanol dimau at ei gilydd ar brosiectau adeiladu. Byddwch yn dysgu sut i gyflawni prosiect ar amser (ar gyllideb) a sut i reoli risg.
  2. Peirianneg Sifil - Tystysgrif Genedlaethol Uwch – Os ydych chi'n mwynhau cymhwyso mathemateg a gwyddoniaeth i broblemau go iawn, mae’r cwrs hwn yn ffordd o adeiladu'r wybodaeth dechnegol i sydd ei angen arnoch weithio ar ffyrdd, pontydd, draenio ac adeiladau. Byddwch yn dysgu sut mae strwythurau yn ymddwyn ac yn cymhwyso egwyddorion dylunio ac offer digidol i greu prosiectau Peirianneg Sifil.

Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn rhan-amser ac fel prentisiaeth.

Gwybodaeth allweddol

Rydym yn cydnabod cymwysterau ffurfiol a/neu brofiad gwaith perthnasol fel llwybrau mynediad i’r cwrs TGU Peirianneg Sifil.

Mae gofynion mynediad cyffredinol yn cynnwys cymhwyster Lefel 3 mewn maes perthnasol fel Adeiladu, Peirianneg, neu Fusnes.

Fel arall, byddwn yn croesawu eich cais os oes gennych brofiad gwaith perthnasol yn y diwydiant adeiladu a’ch bod yn gallu dangos hyfedredd mewn Saesneg ysgrifenedig a llafar ac yn meddu ar sgiliau rhifedd da.

Darparwch gopïau o’ch tystysgrifau academaidd neu dystiolaeth o brofiad gwaith wrth wneud cais. Bydd ein tîm Derbyn yn adolygu pob cais yn ofalus i sicrhau eich bod yn addas ar gyfer y cwrs.

Addysgir y cwrs hwn drwy gyfuniad o ddarlithoedd, gweithdai ymarferol, a phrosiectau grŵp. Byddwch yn cymryd rhan mewn trafodaethau rhyngweithiol, astudiaethau achos, ac ymweliadau â safleoedd i weld rheolaeth adeiladu ar waith. Bydd ein tiwtoriaid profiadol yn mynd â chi drwy gynnwys y cwrs, gan ddarparu cymorth ac adborth cynhwysfawr.

Modiwlau:

  • Gwyddoniaeth a Deunyddiau
  • Yr amgylchedd adeiladu
  • Cais digidol ar gyfer gwybodaeth adeiladu
  • Mesur meintiau a Gosod
  • Mathemateg ar gyfer Adeiladu
  • Technoleg Peirianneg Sifil
  • Egwyddorion dyluno strwythurol
  • Dylunio Prosiectau Adeiladu.

Asesu:

Mae dulliau asesu wedi’u cynllunio ochr yn ochr â’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i lwyddo yn y dwydiant. Mae dulliau asesu yn cynnwys aseiniadau gwaith cwrs, gwaith ymarferol a chyflwyniadau. Mae meini prawf graddio wedi’u hamlinellu’n glir yn llawlyfr y cwrs, gan roi modd i chi ddeall y disgwyliadau a’r meini prawf ar gyfer pob asesiad.

Mae cwblhau’r cwrs Tystysgrif Genedlaethol Uwch mewn Rheoli Adeiladu yn agor y drws i ystod o gyfleoedd dilyniant ar gyfer eich gyrfa.

Mae’r cymhwyster HNC hwn yn rhoi modd i chi fanteisio ar rolau fel:

  • Technegydd Peirianneg Sifil (Ystod cyflog £24,000 i £32,000)
  • Technegydd Peirianneg (ystod cyflog £24,000 i £32,000)
  • Technegydd Priffyrdd/Draenio (ystod cyflog £24,000 i £32,000)
  • Technegydd CAD (ystod cyflog £24,000 i £32,000).

Gallwch ddewis dilyn cymhwyster lefel uwch, fel Diploma Cenedlaethol Uwch (HND) mewn peirianneg sifil, Diploma Cenedlaethol Uwch mewn Rheoli Adeiladu neu radd mewn Peirianneg Sifil neu faes cysylltiedig.

Wrth i chi ennill profiad ac arbenigedd neu drwy ddysgu pellach, gallwch symud ymlaen i swyddi fel Uwch Beiriannwrg Safle neu Rheolwr Prosiect (ystod cyflog £40,000-£60,000).

Costau’r cwrs:

£2,340* y flwyddyn ond mae hefyd ar gael trwy lwybr prentisiaeth.

I gael gwybodaeth am gymorth ariannol – gan gynnwys benthyciadau ffioedd dysgu – ewch i www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk.

Hyd y cwrs:

Addysgir y cwrs hwn dros ddwy flynedd academaidd ar Gampws Tycoch.

Bydd y cwrs yn dechrau ym mis Medi. Cynhelir y dosbarthiadau rhwng 9am a 5pm ar ddydd Mawrth.

Ffioedd ychwanegol:

  • Teithio i’r Coleg, neu’r lleoliad ac yn ôl
  • Costau llungopïo, deunydd ysgrifennu ac offer (e.e. cofau bach)
  • Prynu Esgidiau Diogelwch
  • Argraffu a rhwymo
  • Gynau ar gyfer seremonïau graddio.

*Gallai’r ffioedd dysgu a nodir gynyddu ar gyfer blynyddoedd astudio yn y dyfodol.

Cofrestru ar gyrsiau rhan-amser – y diweddaraf

Rydym wrthi yn uwchraddio ein systemau, ac felly nid oes modd cofrestru ar gyrsiau rhan-amser ar-lein ar hyn o bryd.

Os hoffet ti gofrestru, cer i Gampws Tycoch, lle bydd ein tîm yn hapus i helpu:

  • Dydd Llun-Dydd Iau: 9am-4.30pm
  • Dydd Gwener: 9am-4pm.

Diolch am dy amynedd wrth i ni gwblhau’r gwelliannau hyn.