Skip to main content

Sgiliau Llythrennedd

Rhan-amser
Lefel Mynediad
AGORED
Llwyn y Bryn
10 wythnos

Ffôn: 01792 284021   E-bost: abe@gcs.ac.uk

Trosolwg

Bwriad y cwrs AGORED 10 wythnos hon yw cynyddu’ch hyder a gwella’ch sgiliau llythrennedd.

Mae’n addas i’r rhai sydd am wella eu galluoedd a rhoi hwb i’w hunanhyder. Efallai yr hoffech chi:

  • Helpu’ch plant gyda’u gwaith cartref
  • Ennill cymhwyster i’ch helpu i ddod o hyd i swydd
  • Paratoi at newid gyrfa.

Bydd y cwrs hwn yn eich helpu i loywi eich sgiliau:

  • Atalnodi
  • Gramadeg
  • Sillafu
  • Paratoi at gyfweliad.

Holwch heddiw i wybod rhagor am y cwrs Sgiliau Llythrennedd! 

E-bost: abe@gcs.ac.uk
Ffôn: 01792 284021

Gwybodaeth allweddol

Bydd angen i chi gael asesiad cychwynnol i wneud yn siŵr eich bod yn dilyn cwrs ar lefel sy’n addas i chi.

Addysgir y cwrs hwn wyneb yn wyneb a bydd yn seiliedig ar anghenion a nodau’r dysgwr unigol.

Yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, gallech chi symud ymlaen i gwrs Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru, sydd yn gymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol.

Gall dysgwyr symud ymlaen hefyd i gyflogaeth, hyfforddiant a phrentisiaethau trwy dîm prentisiaethau Coleg Gŵyr Abertawe.

Am ddim (yn amodol ar gymhwystra).

Literacy (Jan start)
Cod y cwrs: VA020_P08
08/01/2027
Llwyn y Bryn
10 weeks
Friday
9:30 - 11:30am
TBA
Literacy (Apr start)
Cod y cwrs: VA020_P09
09/04/2027
Llwyn y Bryn
10 weeks
Friday
9:30 - 11:30am
TBA