Tystysgrif Raddedig Broffesiynol mewn Addysg (ProfGCE) ar gyfer Addysg a Hyfforddiant Ol-orfodol (AHO) /Tystysgrif Broffesiynol mewn Addysg ar gyfer Addysg a Hyfforddiant Ol-orfodol (AHO)
Ffôn: 01792 284098 E-bost: he@gcs.ac.uk
Trosolwg
Corff llywodraethu: Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Tystysgrif Raddedig Broffesiynol mewn Addysg (ProfGCE) ar gyfer Addysg a Hyfforddiant Ol-orfodol (AHO) – mae’r cwrs hwn yn rhoi cymhwyster i chi addysgu yn y sector addysg bellach, oedolion a gwirfoddol (16+ oed). Mae’r cymhwyster addysgu llawn hwn yn cael ei gydnabod ar raddfa genedlaethol. Mae wedi’i gynllunio’n benodol ar gyfer y rheini sydd â gradd sy’n bwriadu addysgu mewn meysydd pynciau ôl-16 megis Busnes, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, y Cyfryngau, y Gyfraith, Peirianneg a TG.
Tystysgrif Broffesiynol mewn Addysg ar gyfer Addysg a Hyfforddiant Ol-orfodol (AHO) – mae’r cwrs hwn yn rhoi cymhwyster i chi addysgu yn y sector addysg bellach, oedolion a gwirfoddol (16+ oed). Mae’r cymhwyster addysgu llawn hwn yn cael ei gydnabod ar raddfa genedlaethol. Mae wedi’i gynllunio’n benodol ar gyfer y rheini sy’n dymuno addysgu pynciau galwedigaethol nad ydynt fel arfer yn gofyn am radd i’w haddysgu, ond yn hytrach yn godyn am brofiad a chymwysterau sy’n berthnasol i’r diwydiant megis Iechyd a Harddwch, Adeiladu a Cynnal a Chadw Cerbydau Modur.
Gwybodaeth allweddol
- Tystysgrif Raddedig Broffesiynol mewn Addysg (ProfGCE) ar gyfer Addysg a Hyfforddiant Ol-orfodol (AHO). Mae gradd 2:2 neu uwch yn ddymunol, neu gyfwerth cydnabyddedig, mewn maes pwnc perthnasol. Os ydych yn cynnig pwnc galwedigaethol, fel arfer bydd disgwyl i chi ddangos bod gennych rywfaint o brofiad galwedigaethol perthnasol hefyd.
- Tystysgrif Broffesiynol mewn Addysg ar gyfer Addysg a Hyfforddiant Ol-orfodol (AHO). Bydd angen cymhwyster galwedigaethol Lefel 3 arnoch a phrofiad perthnasol yn y diwydiant/sector i ymuno â’r cwrs. Pan fyddwch gyda ni, byddwch yn datblygu sgiliau, hyder a dealltwriaeth o ddysgu, addysgu ac asesu yn eich pwnc.
Tystysgrif Ol-raddedig mewn Addysg (TAR) ar gyfer Addysg a Hyfforddiant Ol-orfodol (AHO) (Lefel 7)
Yn ail flwyddyn y cwrs byddwch yn ael cyfle i astudio modiwlau Lefel 7. Cofiwch fod meini prawf yn berthnasol a byddwch yn cael cyfle i'w trafod yn y cyfweliad. Vlwyddyn 2 (modiwlau Lefel 7) - Yr Ymarferydd Proffesiynol, Ymarfer Proffesiynol, Ymchwil Ymarferwyr.
I’r ddau gwrs:
- Mae gradd C neu uwch, neu’r cyfwerth mewn TGAU Mathemateg a Saesneg Iaith yn ddymunol
- Gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) Manwl ar Restr y Gweithlu Plant a Gwahardd Plant a thanysgrifio i Wasanaeth Diweddaru DBS. (Bydd angen y cyfwerth tramor ar gyfer ymgeiswyr nad ydynt yn byw yn y DU)
- Gofynion iaith Saesneg - Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf neu nad ydych wedi astudio yn Saesneg o'r blaen, fel arfer rydym yn gofyn am yr hyn sy'n gyfwerth a sgor o 6.0 yn System Brofi Iaith Saesneg Ryngwladol (Prawf Academiadd IELTS), gyda dim llai na 5.5 ym mhob un o'r isbrofion. Mae'n bosibl y byddwn yn derbyn profion Iaith Saesneg eraill hefyd.
- Oriau addysgu - Rhaid i ymgeiswyr rhan-amser wneud 100 awr o addysgu fel rhan o'r rhaglen. Argymhellir bod myfyrwyr yn gwneud 50 awr o addysgu, a 6 awr o arsylwi tiwtor profiadol yn y flwyddyn gyntaf a 50 awr o addysgu yn yr ail flwyddyn.
Modiwlau
Tystysgrif Broffesiynol mewn Addysg ar Gyfer Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (AHO)
Blwyddyn 1 Lefel 5
- Paratoi ar gyfer Dysgu ac Addysgu
- Ymarfer Cynhwysol yn AHO
- Sgiliau Digidol i Gynorthwyo Dysgu ac Addysg Arloesol
Blwyddyn 2 Lefel 6
- Yr Ymarferydd Proffesiynol Newydd
- Ymarfer Proffesiynol
- Ymchwil Ymarferydd
Tystysgrif Raddedig Broffesiynol mewn Addysg (ProfGCE) ar gyfer Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (AHO)
Blwyddyn 1 Lefel 6
- Paratoi ar gyfer Dysgu ac Addysgu
- Ymarfer Cynhwysol yn AHO
- Sgiliau Digidol i Gynorthwyo Dysgu ac Addysg Arloesol
Blwyddyn 2 Lefel 6
- Yr Ymarferydd Proffesiynol Newydd
- Ymarfer Proffesiynol
- Ymchwil Ymarferydd
Asesu
Nid oes arholiadau, gwaith cwrs yw’r holl asesiadau.
Cewch eich asesu mewn gwahanol ffyrdd gan gynnwys gweithgareddau ymarferol a rhyngweithiol, yn ogystal â gwaith cwrs ysgrifenedig.
Lleoliadau
Disgwylir i fyfyrwyr sicrhau eu lleoliad eu hunain, ond byddwn yn gwneud ein gorau i gefnogi’r broses hon. Byddwn yn trafod y broses ar gyfer dod o hyd i leoliadau ymhellach yn ystod y cyfweliad.
Gwnawn bob ymdrech i sicrhau y cewch chi’r profiad mwyaf cynhyrchiol a chefnogol posibl o ddatblygiad proffesiynol.
Costau’r cwrs
£2,600 y flwyddyn Gallai myfyrwyr fod yn gymwys i gael bwrsari a chymorth i astudio ar y rhaglenni ar yr amod eu bod yn diwallu meini prawf cymhwystra penodol.
I gael gwybodaeth am gymorth ariannol - gan gynnwys benthyciadau ffioedd dysgu, ewch i www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk.
Ffioedd ychwanegol
- Mae angen gliniadur arnoch chi i gwblhau’r cwrs - mae gliniaduron yn costio £400 (ac uwch) - nodwch, bydd gan fyfyrwyr fynediad i Microsoft Office 365.
- £49.50 am wiriad DBS sef elfen hanfodol o’r cwrs
- £16 i ymuno â gwasanaeth diweddaru DBS
- Teithio i ac o’r Coleg, neu’r lleoliad
- Llungopïo, deunydd ysgrifennu a chostau offer (e.e. cofion bach)
- Argraffu a rhwymo
- Gynau ar gyfer seremonïau graddio.
Cydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol
Mae’n bosibl y bydd y myfyriwr yn gallu ennill cydnabyddiaeth ar gyfer dysgu blaenorol. Cysylltwch i gael cyngor os teimlwch y gallai hyn fod yn bethnasol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn Swyddfa Academaidd UWTSD