Skip to main content

 Diweddariad i Rieni a Gofalwyr CGA

Galwedigaethol

Croeso

Croeso cynnes iawn i holl rieni a gofalwyr ein dysgwyr galwedigaethol newydd a’r rhai sy’n dychwelyd, a diolch i chi am ddewis Coleg Gŵyr Abertawe.

Wrth i ni ddechrau blwyddyn academaidd newydd, rydym wrth ein boddau o groesawu eich plant i’r Coleg ac yn edrych ymlaen at weithio gyda chi i’w helpu i lwyddo, magu hyder a gwneud y mwyaf o bob cyfle sydd ar gael iddyn nhw.

Mae hefyd yn bwysig dathlu llwyddiannau ein dysgwyr yn 2025/26. Roedd canlyniadau’r dysgwyr galwedigaethol y llynedd yn wirioneddol ragorol gyda 99% o’n dysgwyr Lefel 3 ail flwyddyn yn cwblhau eu cwrs yn llwyddiannus ac yn symud ymlaen i’r cam nesaf o’u teithiau. Enillodd y dysgwyr hyn hefyd raddau rhagorol gyda 38% ohonynt yn cyflawni o leiaf  radd Rhagoriaeth a 22% yn cyflawni’r radd uchaf sydd ar gael.

Rydym yr un mor falch o brofiad ehangach y dysgwr yng Ngholeg Gŵyr Abertawe. O wibdeithiau ac ymweliadau rhyngwladol i gyfoethogi academaidd, profiadau cyflogaeth, clybiau a chymdeithasau - mae nifer o gyfleoedd i ddysgwyr ddatblygu y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth.

Wrth edrych ymlaen i 2026/27, rydym yn gobeithio y bydd eich plant yn cofleidio’r cyfleoedd hyn, yn mwynhau eu hamser gyda ni ac yn rhagori a ffynnu ar eu rhaglenni.

 

Cath Williams

Cath Williams 
Deon y Gyfadran

Bywyd Coleg

Mae ein cymuned Coleg yn gweithredu o gwmpas tair egwyddor yn ein Siarter y Dysgwr:

Bydd yn Barchus | Bydd yn Barod | Bydd yn Saff

Rydym yn disgwyl i bob dysgwr ddangos ymrwymiad, brwdfrydedd a pharch at yr egwyddorion hyn bob amser. Mae gennym ymagwedd dim goddefgarwch at ymddygiad amhriodol, gan gynnwys ysmygu neu fêpio y tu allan i ardaloedd dynodedig, diffyg parch tuag at gyfoedion neu staff, ac absenoldeb heb esboniad neu anawdurdodedig. Pan fydd pryderon yn codi, byddwn yn cysylltu â chi i’ch gwneud yn ymwybodol o’r sefyllfa. Gofynnwn am eich cefnogaeth i atgyfnerthu’r disgwyliadau hyn gartref. Trwy weithio gyda’n gilydd, gallwn sicrhau bod pob dysgwr yn mwynhau amgylchedd dysgu diogel, parchus a chadarnhaol.

Cymorth Ychwanegol

Mae gennym amrywiaeth o gymorth arbenigol i helpu dysgwyr i oresgyn heriau a ffynnu yn y Coleg:

Swyddogion Cymorth i Fyfyrwyr – Yn darparu cymorth ymarferol, personol a chymorth mewn argyfwng, gan helpu dysgwyr i gael mynediad at wasanaethau lles priodol.  

Cynghorwyr Cyllid – Yn helpu dysgwyr i gael cymorth ariannol gan gynnwys LCA, CAWG, GDLlC a chyllid arall sydd ar gael i ddysgwyr cymwys.  

Cynghorwyr Iechyd Meddwl – Yn darparu cymorth, arweiniad ac ymyriadau iechyd meddwl ar gyfer myfyrwyr.

Cynghorwyr Iechyd – Yn cynnig cyngor ac arweiniad ar iechyd, gan hyrwyddo dewisiadau iach a lles cyffredinol.

Cwnsela - Yn darparu cymorth therapiwtig cyfrinachol ar gyfer iechyd meddwl, lles emosiynol, heriau personol a gwydnwch, gan weithio ochr yn ochr â gwasanaeth cwnsela The Exchange a CAMHS.  

Cyflogadwyedd - Yn helpu dysgwyr i ddatblygu sgiliau hyder a chyflogadwyedd, archwilio cyfleoedd a pharatoi ar gyfer eu camau nesaf.  

Cymorth niwroamrywiaeth - Yn darparu cymorth i ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol a niwroamrywiaeth.

Mae’r tîm Niwroamrywiaeth ar gael i gynorthwyo dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae’r tîm yn gweithio gyda dysgwyr i ddatblygu Cynlluniau Datblygu Unigol a sicrhau bod cymorth priodol ac addasiadau rhesymol yn cael eu rhoi ar waith yn seiliedig ar y dystiolaeth sydd ar gael.

Sgiliau, sgiliau, sgiliau!

Mae dewis cwrs galwedigaethol yn ffordd wych i’ch plentyn droi eu diddordebau yn sgiliau ymarferol ar gyfer ei yrfa yn y dyfodol. Trwy gydol ei gwrs, caiff lawer o gyfleoedd i ddysgu, ymarfer a magu hyder yn y sgiliau sydd eu hangen arno i lwyddo yn y diwydiant o’i ddewis.

Ochr yn ochr â dysgu yn yr ystafell ddosbarth, bydd eich plentyn yn treulio amser yn ein gweithdai arbenigol, ein salonau, ein ceginau a’n labordai, gan ennill profiad ymarferol gwerthfawr mewn amgylcheddau gwaith realistig. Mae’n gyfle iddo roi ei ddysgu ar waith, darganfod beth mae’n gallu ei wneud a magu’r hyder a’r annibyniaeth y bydd eu hangen arno ar gyfer ei gamau nesaf.

Ac, i lawer o’n dysgwyr, y sesiynau ymarferol yw uchafbwynt eu hwythnos!

Efallai y bydd eich plentyn hefyd yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn cystadlaethau sgiliau rhanbarthol a chenedlaethol. Mae’r profiadau hyn yn rhoi cyfle iddo arddangos yr hyn y gall ei wneud, cwrdd â dysgwyr talentog eraill a herio ei hun mewn amgylchedd cefnogol. P’un a yw’n cystadlu neu’n cymryd rhan, mae’r rhain yn brofiadau y gall edrych yn ôl arnynt gydag ymdeimlad gwirioneddol o gyflawniad a balchder.

Rydym am i bob dysgwr ein gadael nid yn unig gyda sgiliau a chymwysterau gwerthfawr, ond hefyd gyda’r hyder i gymryd ei gam nesaf ac adeiladu dyfodol y gall fod yn falch ohono.

Dyddiadau Tymhorau 2026/27

Tymor 1

1 Medi – 23 Hydref
Hanner Tymor: 26 – 30 Hydref
2 Tachwedd - 11 Rhagfyr

Tymor 2

4 Ionawr – 5 Chwefror
Hanner Tymor: 8 – 12 Chwefror
15 Chwefror – 19 Mawrth

Tymor 3

5 Ebrill – 28 Mai
Hanner Tymor: 31 Mai – 4 Mehefin
7 Mehefin – 25 Mehefin 

Gweithio gyda chi

Rydym yn edrych ymlaen i gydweithio â chi drwy gydol y flwyddyn i gynorthwyo’ch plant i wneud y mwyaf o’u cyfleoedd, cyflawni eu nodau a chyrraedd eu potensial llawn.

Gobeithio y cân nhw flwyddyn wych a llwyddiannus gyda ni!