Skip to main content

Sgiliau Adeiladu: Amlsgiliau Lefel 1 - Diploma Available in Welsh

Amser-llawn
Lefel 1
C&G
Tycoch, Llys Jiwbilî
Un flwyddyn
Trwy gyfrwng y Gymraeg
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch), 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Arolwg

Mae’r cwrs Diploma Lefel 1 mewn Sgiliau Adeiladu (Amlsgiliau) yn rhoi cyflwyniad eang i grefftau gwaith brics, gwaith coed, peintio ac addurno a phlastro. 

Datblygwyd y cwrs i ddysgwyr sydd heb benderfynu ar y grefft maen nhw am ei dilyn fel gyrfa.  

Bydd pob dysgwr yn cwblhau prosiectau ymarferol gwahanol seiliedig ar gredydau ym meysydd gwaith brics, gwaith coed, peintio ac addurno a phlastro erbyn diwedd y flwyddyn.  

Mae dwy uned theori ar Iechyd a Diogelwch a’r Amgylchedd Adeiledig.  

Gwybodaeth allweddol

Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol. Rhaid bod gennych awydd i weithio yn y diwydiant adeiladu. Bydd cymwysterau TGAU, cymwysterau cyfwerth a theilyngdod personol yn cael eu trafod yn y cyfweliad. Byddwch yn gwneud asesiad diwydiant er mwyn penderfynu lefel briodol y cwrs.

Byddwch yn cael eich asesu’n barhaus ac mae disgwyl i chi barhau â’ch astudiaethau a’ch gwaith cwrs yn ystod eich amser eich hun.

Addysgir y cwrs drwy sesiynau ymarferol gyda chyfleusterau gweithdy a gwersi theori rhagorol yn ategu’r wybodaeth a ddysgwyd yn y sesiynau ymarferol. Cewch eich asesu trwy aseiniadau ymarferol, aseiniadau ysgrifenedig a phrofion dewis lluosog ar ddiwedd pob uned.

Gellir addysgu elfennau o’r cwrs hwn drwy gyfrwng y Gymraeg.

Asesu: Un uned theori orfodol 

Rhaid i ddysgwyr gyflawni o leiaf 37 credyd 

Bydd y cymhwyster hwn yn rhoi modd i chi a/neu eich paratoi i symud ymlaen i’r grefft o’ch dewis fel hyfforddai neu brentis neu i astudiaethau pellach.

Cwrs Sylfaen mewn Adeiladu (Gwaith Coed a Pheintio ac Addurno) 

Cwrs Sylfaen mewn Adeiladu (Gwaith Brics a Phlastro) 

Rhaid i bob myfyriwr gyflenwi’r offer angenrheidiol i’w caniatáu i ddechrau/cwblhau gweithgareddau ystafell ddosbarth a gweithdy. Mae’r rhain yn cynnwys: deunydd ysgrifennu; oferôls; esgidiau; sbectol diogelwch.