Dechrau yng Ngholeg Gŵyr Abertawe
Cyn i ti ddod i dy ddiwrnod croeso, gwna’n siŵr dy fod yn sgrolio i lawr a chwblhau pob un o’r pum tasg angenrheidiol sydd i’w gweld isod:
- Tasg 1 - Dod o hyd i dy fanylion personol y Coleg
- Tasg 2 - Lawrlwytho 'GetEduroam'
- Tasg 3 – Lawrlwytho Ap 'ENGAGE'
- Tasg 4 - Lawrlwytho Ap ‘Microsoft Authenticator’
- Tasg 5 - Cwblhau dy dri asesiad CENTURY. (Dysgwyr UG a Lefel 3 yn unig).
Tasg 1 - Dod o hyd i dy fanylion personol y Coleg
Bydd angen y rhain arnat ti er mwyn mewngofnodi i apiau a gweithgareddau amrywiol y Coleg.
Rhan 1: Rhif Adnabod y Coleg
Mae dy rif adnabod myfyriwr y Coleg i’w weld ar dy fathodyn adnabod a dy ffurflen cadarnhau cofrestru. Bydd yn edrych yn debyg i: 23123456 (neu ABC123456 os ydych chi'n ddysgwr sy'n dychwelyd)
Rhan 2: Enw Defnyddiwr y Coleg
Dy enw defnyddiwr y Coleg yw dy rif myfyriwr (fel uchod) wedi’i ddilyn gan yr olddodiad @stu.gcs.ac.uk
Bydd yn edrych yn debyg i: 23123456@stu.gcs.ac.uk (neu ABC123456@stu.gcs.ac.uk os ydych chi'n ddysgwr sy'n dychwelyd)
Rhan 3: Dy Gyfrinair y Coleg
Dylet ti fod wedi derbyn neges destun gyda dy gyfrinair Coleg dros dro ar y diwrnod gwaith nesaf ar ôl i dy gofrestriad gael ei gadarnhau.
Gelli di newid y cyfrinair rwyt ti wedi’i dderbyn pan wnest ti fewngofnodi gyntaf.
Tasg 2 - Lawrlwytho 'GetEduroam'

Dylet ti osod yr ap hwn ar dy ddyfais CYN dod i’r Coleg. Bydd angen yr ap arnat ti i ddefnyddio Wi-Fi y Coleg. Mae’n bosibl y bydd data symudol/4G cyfyngedig ar gael ar y campws ar gyfer lawrlwytho a gosod yr ap.
Fyddi di ddim yn gallu defnyddio’r ap nes dy fod ti’n cyrraedd y Coleg. Byddwn ni’n rhoi manylion i ti ar sut i gysylltu â Wi-Fi y Coleg ar dy ddiwrnod cyntaf.
Chwilio am ‘GetEduroam’ ar Playstore neu App Store a lawrlwytho’r ap
Tasg 3 – Lawrlwytho Ap 'ENGAGE'
Ap ‘Bywyd Myfyriwr’ Coleg Gŵyr Abertawe.
Ap Engage yw dy ap gwybodaeth bersonol y Coleg. Yma gelli di wirio amserlenni, presenoldeb, negeseuon a llawer mwy.
Chwilia am ‘GCS Engage’ ar Playstore neu App Store a lawrlwytho’r ap
I fewngofnodi, clicia ar Azure AD ac yna rhoi dy e-bost coleg a dy gyfrinair, os gofynnir i ti wneud hynny.
Tasg 4 – Lawrlwytho Ap ‘Microsoft Authenticator’
Mae angen yr ap hwn arnat ti er mwyn cyrchu dy ffeiliau Coleg ac unrhyw gynnwys arall pan fyddi di gartref neu i ffwrdd o safle’r Coleg.
Chwilia am ‘Microsoft Authenticator’ ar Playstore neu App Store.
I fewngofnodi, dilyna’r camau syml hyn:
- Agor ap Authenticator
- Dewis y botwm +
- Tapia ‘Ychwanegu cyfrif gwaith neu ysgol’
- Dewis ‘Mewngofnodi’
- Rho fanylion dy gyfrif Coleg – hynny yw dy enw defnyddiwr myfyriwr (e.e. dy rif adnabod myfyriwr wedi’i ddilyn gan @stu.gcs.ac.uk)
- Cyfrinair: Dy gyfrinair uchod.
Tasg 5 – Cwblhewch eich asesiadau CENTURY erbyn dydd Gwener 4 Medi
Ar gael o ddydd Mawrth 25 Awst:
Bydd yr asesiad yn rhoi syniad i'ch darlithwyr o'ch lefelau sgiliau mewn Llythrennedd, Rhifedd a Llythrennedd Digidol.
Sut i fewngofnodi i CENTURY:
Gallwch fewngofnodi i CENTURY ar gyfrifiadur, gliniadur, tabled neu ffôn clyfar.
Ewch i wefan Century: app.century.tech
Ar y sgrin mewngofnodi, cliciwch Mewngofnodi gydag Office 365 a theipiwch eich enw defnyddiwr a chyfrinair coleg i fewngofnodi.
Cwblhau’r Asesiad Cychwynnol:
Ar ôl mewngofnodi, bydd restr o'r Asesiadau Cychwynnol yn ymddangos.
Gallwch gwblhau'r rhain mewn unrhyw drefn. Dewiswch pa bwnc yr hoffech ei gwblhau gyntaf a chliciwch cychwyn.
Gwyliwch y fideo rhagarweiniol cyn gweithio drwy'r cwestiynau.
Ar ôl cwblhau Asesiad Cychwynnol, byddwch yn dychwelyd i'r dudalen hafan lle gallwch gwblhau'r Asesiadau Cychwynnol.
Llwybr a argymhellir:
Ewch i'ch Llwybr a Argymhellir (top y dudalen).
Byddwch yn gweld y llwybr a argymhellir a ellir ei ddefnyddio i ddatblygu sgiliau a mireinio ar bethau rydych chi wedi anghofio.
Mae’r llwybr yn bersonol ac mi fydd yn addasu wrth i chi ddysgu.
Cliciwch dechrau i gychwyn. Cwblhewch bob adran i ddatgloi’r un nesaf.
Diolch am gwblhau’r camau hyn a fydd yn dy helpu i ymgartrefu yn gyflymach ac yn rhwyddach yn y Coleg. Rydyn ni’n edrych ymlaen at dy weld ym mis Medi!
Cwestiynau Cyffredin
Dy ddiwrnod cyntaf fydd naill ai’r 1af neu’r 2il o fis Medi ond gall hyn amrywio yn dibynnu ar y campws. Dylet ti fod wedi cael llythyr gyda dy ddyddiad dechrau swyddogol arno.
Dylet ti fod wedi cael rhif ystafell ar gyfer dy ddiwrnod croeso. Os nad wyt ti’n siŵr ynghylch ble i fynd ar dy ddiwrnod cyntaf, cer i’r dderbynfa lle bydd staff wrth law i dy helpu i ddod o hyd i dy ystafell.
Mae dy ddiwrnod cyntaf yn gyfle i gwrdd â darlithwyr Coleg, ymgyfarwyddo â systemau’r Coleg a dysgu am yr holl gymorth sydd ar gael i ti. Byddwn ni’n mynd â ti ar daith o amgylch gwasanaethau’r Coleg a’r hybiau cymorth. Byddi di’n cwrdd â dy gydfyfyrwyr newydd a bydd yna gyfleoedd i ti gwrdd â phobl drwy gydol y dydd. Bydd gweithgareddau’n cael eu cynnal drwy gydol y dydd i dy helpu i ymgartrefu a chael hwyl. Mae gweithgareddau amser cinio tawelach ar gael yn y llyfrgelloedd ar bob campws.
Bydd amserlenni’n cael eu cadarnhau ar dy Ddiwrnod Croeso a byddwn ni’n rhoi gwybodaeth ynghylch sut i’w gweld ar y diwrnod.
Os hoffet ti newid dy gyfrinair, clicia’r ddolen isod a dilyn y camau.

